Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod £425,000 wedi'i ddyfarnu i 26 o brosiectau arloesol sy'n ceisio hybu'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg Gymraeg
Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Bydd yn darparu grantiau bach o hyd at £20,000 yr un i ariannu prosiectau tymor byr arloesol sy'n ceisio cynyddu'r defnydd bob dydd pobl o'r iaith a hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.
Mae'r prosiectau'n cynnwys gwefan sy'n galluogi gwirfoddolwyr Cymraeg i greu cynnwys sain Cymraeg ar gyfer y rheini sydd wedi colli eu golwg, a phrosiect i ddatblygu technoleg a fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad i greu lleisiau synthetig personol er mwyn iddynt allu parhau i gyfathrebu yn eu mamiaith.
£300,000 oedd ar gael yn wreiddiol, ond oherwydd safon eithriadol y ceisiadau a ddaeth i law, penderfynwyd cynyddu'r gronfa.
Meddai'r Gweinidog:
"Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.
Mae'n galonogol iawn ein bod wedi gorfod cynyddu'r gronfa er mwyn gallu cefnogi'r prosiectau rhagorol a gyflwynwyd i ni. Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno â ni wrth i ni fwrw ymlaen â'r dasg hon."
Cafodd grantiau eu dyfarnu i’r prosiectau canlynol:
Sefydliad<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" /> |
Grant
| Prosiect |
Astral Dynamics | £20,000.00 | Creu gêm, yn seiliedig ar chwedloniaeth Gymraeg, i gynorthwyo dysgu’r Gymraeg. |
Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor | £20,000.00 | Prosiect i ddatblygu meddalwedd a fydd yn adeiladu lleisiau Cymraeg synthetig i unigolion a allai golli’r gallu i siarad. |
Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd (Geiriadur Prifysgol Cymru) | £20,000.00 | Peilot i dreialu porth ar-lein i ddefnyddio gwirfoddolwyr i drawsgrifio cofnodion ymadroddion a geiriau Cymraeg o’u ffurf gyfredol papur, i gronfa ddigidol. |
Cerddoriaeth Gymunedol Cymru | £14,825.00 | Prosiect “Clwb Finyl” sy’n dod â siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg at ei gilydd er mwyn trafod cerddorion, albymau a gigiau Cymraeg ac i gynorthwyo iddynt fagu’r sgiliau a’r hyder i lunio adolygiadau ar-lein o’r Sîn Roc Gymraeg. |
Cered | £13,400.00 | Prosiect peilot: clybiau codio yn Ne Orllewin Cymru. |
Cered | £17,100.00 | Prosiect i droi llyfr poblogaidd “Caneuon Bys a Bawd” yn adnodd rhyngweithiol ar ffurf app. |
Coleg Caerdydd a’r Fro | £5,570.00 | Prosiect i gynyddu hyder myfyrwyr yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni drwy system ddigidol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. |
Cyngor Gwynedd | £20,000.00 | Creu profiad rhithwir Cymraeg i gynyddu dealltwriaeth unigolion o brofiadau’r rheini sy’n dioddef o ddementia. |
Family Fostering Partners | £20,000.00 | Prosiect i greu platfform digidol i ofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Nod y prosiect yw cynnig adnoddau therapiwtig i ddeall profiadau bywyd yn eu mamiaith. |
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion | £5,000.00 | Prosiect i ddatblygu a magu hyder pobl ifanc a allai fynd yn NEET i ddefnyddio’r Gymraeg drwy gelf graffiti.
|
Menter Caerdydd | £15,820.00 | Prosiect i gynyddu cynnwys digidol Cymraeg drwy brosiect Wici Caerdydd , sydd â’r nod o gynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg sydd ar gael ar Wicipedia, a phrosiect i hybu’r Gymraeg drwy Snapchat. |
Menter Iaith Abertawe | £20,000.00 | Datblygu ap i hyrwyddo iechyd a lles, e.e. myfyrio ac yoga. |
Menter Iaith Caerffili | £19,955.63 | Prosiect i greu cymuned newydd leol ar-lein yng Nghaerffili. Bydd hyn yn cynnwys datblygu clybiau a gweithgareddau wythnosol a misol, cyfleoedd gwirfoddoli a sianeli digidol ar-lein newydd. |
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf | £19,174.00 | Dylunio gêm Gymraeg sythweledol ar ffurf antur episodig ar gyfer y llwyfan Steam. |
Mynyddoedd Pawb | £18,250.00 | Creu map ar ffurf realiti uwch a fydd ar gael i unigolion sy’n ymgymryd â gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.
Drwy symud camera ffôn neu dabled ar draws llwybrau troed, bydd pwyntiau a lleoliadau o ddiddordeb yn ymddangos ar y sgrin. |
Prifysgol Bangor | £20,000.00 | Prosiect peilot i ddefnyddio methodoleg ‘Eusle’ a ddefnyddir yng Nghymuned Ymreolus y Basgiaid, a hynny i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweithleoedd dwyieithog. |
Prifysgol Caerdydd: Wordnet Cymraeg | £19,964.00 | Prosiect i greu Wordnet (cronfa ddata geiriadurol) ar gyfer y Gymraeg. |
Quantum Soup Studios | £19,650.00 | Cefnogi datblygu Talesinger—gêm Gymraeg chwarae rôl ar PC a Chonsol. |
RNIB | £19,954.00 | Prosiect i ddatblygu porth gwe sy’n dod â gwirfoddolwyr Cymraeg a phobl sydd wedi colli golwg sy’n dymuno darllen cynnwys Cymraeg. |
Sefydliad Data Agored, Caerdydd | £19,900.00 | Creu fersiwn Gymraeg o OpenStreetMap a fydd yn caniatáu mapio Cymru yn y Gymraeg o dan drwydded agored. |
Sgiliaith | £19,991.00 | Datblygu menter arloesol ‘Seren Iaith’ ar draws Grŵp Coleg Llandrillo Menai, a chanddi’r nod o hybu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn y coleg. |
Undeb Rygbi Cymru | £10,000.00 | Prosiect i hybu’r Gymraeg drwy greu hyfforddwyr newydd ar lawr gwlad a thrwy greu modiwl penodol i’w cymryd gan unigolion sy’n dymuno ymgymhwyso’n hyfforddwyr. |
Y Gweilch | £11,680.00 | Prosiect i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy sesiynau rygbi â phlant a phobl ifanc a hefyd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar Ospreys TV. |
Y Selar | £7,000.00 | Creu platfform digidol newydd, drwy wefan yn y lle cyntaf, i fynd â gwybodaeth am y Sîn Roc Gymraeg i bobl ifanc. |
Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru | £20,000.00 | Prosiect i hyrwyddo’r Gymraeg drwy greu hyfforddwyr pêl-droed ar lawr gwlad a modiwl hyfforddi penodol i’w gymryd gan unigolion sy’n dymuno ymgymhwyso’n hyfforddwyr. |
Ymddiriedolaeth Genedlaethol | £6,480.00 | Prosiect i hyrwyddo’r Gymraeg ac i gynyddu’r defnydd ohoni gan weithwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn fewnol a chydag ymwelwyr â safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. |