Mae £4.2 miliwn wedi’i ddyfarnu i 77 o sefydliadau i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.
Mae’r canlynol ymhlith y grwpiau a fydd yn elwa’n uniongyrchol ar y gronfa hon:
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
- Mentrau Iaith
- Merched y Wawr
- Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
- Papurau Bro
- Urdd Gobaith Cymru
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:
“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn ac er bod addysg yn allweddol i wireddu’r nod yma, mae defnyddio’r iaith bob dydd ym mhob agwedd ar fywyd yr un mor bwysig.
“All y Gymraeg ddim â bodoli fel iaith y dosbarth yn unig. Er mwyn iddi ffynnu, mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd, siaradwyr y Gymraeg, ei defnyddio. Mae’r sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan y grantiau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.
“Mae gan ddigwyddiadau uchel eu proffil fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl, yn ogystal â’r cyfleoedd a roddir gan sefydliadau yn lleol, ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod y Gymraeg a’r diwylliant yn gryf yn ein cymunedau ledled Cymru.
“Mae’r grantiau hyn yn cydnabod cyfraniad y sefydliadau hyn i les yr iaith yn y dyfodol a byddant o gymorth wrth gefnogi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ganddyn nhw yn hybu’r Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus.”