Neidio i'r prif gynnwy

Croesawodd y Gweinidog hefyd y newyddion y bydd ceisiadau ar-lein am basbortau yn Gymraeg ar gael cyn hir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni, ysgrifennodd y Gweinidog at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo sef Caroline Nokes AS, yn holi am sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar basportau newydd a gaiff eu cyflwyno yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ac yn atgoffa'r Swyddfa Gartref o'i hymrwymiadau i'r Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Yn dilyn yr ohebiaeth yma, derbyniodd y Gweinidog lythyr yn cadarnhau bwriad y Swyddfa Gartref i barhau i ddarparu'r un ddarpariaeth o ran y Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd.

Croesawodd y Gweinidog hefyd y newyddion y bydd ceisiadau ar-lein am basbortau yn Gymraeg ar gael cyn hir. 

Dywedodd:

"Mae'r Gymraeg sydd i'w gweld ar hyn o bryd ar basportau yn ganlyniad trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a'r Undeb Ewropeaidd dros ddegawd yn ôl.

“Ers hynny, rhoddwyd statws swyddogol i'r Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n hanfodol felly bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o'r dechrau'n deg pan fydd cynllun a chynnwys pasbortau newydd yn cael eu hystyried.

"Mae'n dda gen i felly gael sicrwydd gan y Gweinidog Gwladol, Caroline Nokes, nid yn unig na fydd unrhyw newid i'r Gymraeg sydd ar gael ar basportau a gyflwynir ar ôl Brexit ond y bydd y Swyddfa Basport yn cynyddu ei gwasanaethau yn Gymraeg ac y bydd ceisiadau ar-lein ar gael yn Gymraeg yn y dyfodol."