Bu Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn ymweld â swyddfeydd Geiriadur Prifysgol Cymru yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.
Fel yr unig eiriadur hanesyddol safonol Cymraeg, Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r cofnod mwyaf awdurdodol o eirfa’r iaith. Caiff ei ddefnyddio fel sail i lu o eiriaduron, thesawrysau, termiaduron a llyfrau cyfeirio eraill.
Dechreuwyd ar y gwaith o lunio’r Geiriadur yn 1921, a chaiff ei ddiweddaru sawl gwaith y flwyddyn ar sail y defnydd a wneir o eiriau. Mae’r Geiriadur, sydd bellach yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn unig, wedi derbyn cyllid cyhoeddus ers 1921 a chamodd Llywodraeth Cymru i’r adwy i barhau â’r cyllido pan ddaeth arian o ffynonellau eraill i ben.
Gall gymryd blynyddoedd i eiriau newydd gael eu derbyn i’r Geiriadur, a hynny er mwyn sicrhau eu bod wir wedi ennill eu plwyf, ac nad ydynt yn fyrhoedlog.
Ymysg y geiriau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd i’w cynnwys yn y dyfodol, mae hunlun (sef ‘selfie’ yn Saesneg, wrth gwrs), OMB (sef ‘O Mam Bach!’), trendio ac aildrydar.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, caiff seminar ei gynnal lle bydd arbenigwyr ym maes geiriaduraeth, terminoleg, corpora iaith a’r proffesiwn cyfieithu yn trafod rôl y Geiriadur yn seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn y dyfodol, a sut y gall hyn gyfrannu at gyflawni amcanion Cymraeg 2050.
Dywedodd y Gweinidog:
“Roedd fy ymweliad â Geiriadur Prifysgol Cymru yn ddiddorol dros ben. Roedd clywed sut mae’r Geiriadur yn cofnodi’r iaith wrth iddi addasu a newid yn arbennig o ddiddorol; bydd hyn yn helpu i’r heniaith barhau!
“Mae hyn yn waith pwysig iawn i’r Gymraeg, ac mae’n braf gweld bod cyllid Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig yn nyfodol y gwaith hwn ac, felly, yn nyfodol yr iaith.”
Dywedodd Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:
"Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru am ei bod yn sicrhau dyfodol cynllun y Geiriadur. Mae'n gydnabyddiaeth i'r gwaith sylfaenol y mae'r Geiriadur yn ei wneud i gofnodi'r Gymraeg ac ehangu'r defnydd ohoni."
Dywedodd Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:
"Rydym yn croesawu bod yn rhan o'r gwaith hwn sy'n hyrwyddo agenda'r Llywodraeth. Mae'r Brifysgol yn gefnogol i'r nod o greu Cymru ddwyieithog ac o ddatblygu corpws yr iaith."