Heddiw, bydd Alun Davies yn cyhoeddi bod corff annibynnol arbenigol newydd yn cael ei ffurfio i roi cyngor ar y cyfryngau a darlledu yng Nghymru.
Yn ei anerchiad cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ers ei benodi’n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, bydd Alun Davies yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i’r Papur Gwyn diweddar ar ddyfodol y BBC.
A hithau’n gorfforaeth sy’n rhan hanfodol o fywyd cyhoeddus Cymru, bydd y Gweinidog yn tynnu sylw at yr angen iddi gael digon o gyllid ac sydd â mandad priodol, a bydd yn galw am fwy o fanylion am ymrwymiadau’r BBC i wella’i chyllid a’i gwasanaethau i Gymru. Bydd hefyd yn dweud bod yn rhaid gwarchod cyllid ac annibyniaeth S4C.
Bydd Alun Davies yn dweud:
“Heb os nac oni bai, mae hwn yn gyfnod hollbwysig i ddarlledu yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae yna benderfyniadau allweddol i’w gwneud mewn perthynas â darlledu a’r trefniadau rheoleiddio.

“Byddwn yn sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol newydd i Gymru. Roedd hyn yn un o argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad ar yr Adolygiad o Siarter y BBC. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan lawn ym mhroses yr Adolygiad o’r Siarter, a bydd yn parhau i wneud hynny. Rwy’n bwriadu cwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon cyn toriad yr haf er mwyn trafod materion darlledu ac rwy’n falch ei fod wedi mynd i’r afael â nifer o’r materion rydyn ni wedi’u codi eisoes.
“Mae’n galonogol bod y BBC yn bwriadu gwarchod gwariant yn y gwledydd datganoledig o gymharu ag ardaloedd eraill, a’i fod erbyn hyn yn ymrwymo i ddyrannu arian ychwanegol ar gyfer ei wasanaethau penodol yn y gwledydd hyn. Ond mae angen eglurder, a hynny ar frys, ynghylch beth mae hyn yn ei olygu mewn termau ariannol a pha effaith y bydd hyn yn ei chael ar hyd a lled y gwasanaethau y mae’r BBC yn eu darparu i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw ar y BBC i fuddsoddi cyllid ychwanegol, sylweddol yn rhaglenni Cymru.
“Rydyn ni’n croesawu cydnabyddiaeth Tony Hall bod yn rhaid gwella sut mae Cymru a’r gwledydd datganoledig eraill yn cael eu portreadu. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’r bwriad i benodi golygydd comisiynu dramâu ar gyfer pob gwlad. Bydd yn hollbwysig bod yr unigolyn sy’n gyfrifol am Gymru wedi’i leoli yng Nghymru, a bod penderfyniadau comisiynu am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y gwaith cynhyrchu yn cael ei ddosrannu’n decach y tu allan i Lundain, yn y gwledydd a’r rhanbarthau.

“Y BBC yw prif ddarparwr rhaglenni newyddion a materion cyfoes teledu nad yw’n rhan o’r rhwydwaith yn dal i fod yng Nghymru, ac mai’r BBC yn bennaf sydd wedi ysgogi’r gwelliannau yn y sylw sy’n cael ei roi i faterion gwleidyddol datganoledig yng Nghymru. Eto i gyd, dydy Cymru yn dal ddim yn cael ei chynrychioli’n ddigonol, hyd yn oed pan yw’r straeon yn berthnasol i bob rhan o’r DU.
“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli ar fwrdd unedol newydd y BBC – fe fuon ni’n rhoi pwysau mawr arnyn nhw am hyn.”
O ran dyfodol S4C, bydd yn dweud:
“Mae’n hollbwysig bod S4C yn cael digon o gyllid yn ogystal ag annibyniaeth o ran golygu a rheoli. Rydyn ni’n croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, rhywbeth rydyn ni wedi pwyso’n barhaus amdano. Ond fe ddylai hyn gael ei wneud ochr yn ochr â’r Adolygiad o Siarter y BBC yn hytrach na wedyn. Rydyn ni’n disgwyl cymryd rhan lawn yn yr adolygiad o S4C, gan gynnwys y broses o ddatblygu’r cylch gorchwyl.”