Nod y gynhadledd yw rhoi llwyfan i arbenigwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid i gyfnewid gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynllunio ieithyddol ac amlieithrwydd yn Ewrop.

Bydd y prif anerchiad yn cael ei draddodi gan Patxi Bazterrikka, Is-Weinidog y Fasgeg, a fydd yn sôn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg dros y degawdau diwethaf i gynyddu nifer y siaradwyr Basgeg.
Gyda chymorth mentrau sy’n annog pobl i ddysgu a siarad Basgeg (Euskara), mae'r iaith yn parhau i fod yn berthnasol ac yn bwysig i'r gymuned Fasgaidd, yn Ewrop a ledled y byd.
Hefyd, bydd yr Athro Rob Dunbar, Athro mewn Ieithoedd, Llenyddiaeth, Hanes a Hynafiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin yn siarad am Reoleiddio a Hawliau Iaith o safbwynt Canada.
Yn enedigol o Ganada, mae’r Athro Dunbar wedi bod yn ymwneud â datblygu'r Aeleg ers bron i ugain mlynedd, ac roedd yn rhan o'r gwaith i ddatblygu Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005 ac i sefydlu BBC Alba, sef gwasanaeth teledu digidol yr Alban yn yr Aeleg.
Yn nes at adref, bydd trafodaeth panel gyda Menna Jones (Antur Waunfawr), Laura McAllister (Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-Droed Cymru); ac Iwan Roberts (Hacio) ar sut i fynd ati i normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn amryw gyd-destunau.
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, a lansiwyd gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidog y Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, sy'n anelu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddiwedd mis Hydref, ac mae'n nodi chwe maes allweddol i'w trafod:

- Cynllunio
- Sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan arferol o fywyd bob dydd
- Addysg
- Pobl
- Cymorth
- Hawliau
“Mae Euskara wedi llwyddo i ailddyfeisio ei hun. Mae’n iaith gadarn, sy’n cynrychioli dewis personol ac undod cymunedol. Fel y Gymraeg, mae'n cynrychioli mwy na'r hawl i lefaru ei geiriau; mae'n cynrychioli’r hawl sydd gan bobl i ddewis eu hunaniaeth eu hunain, ac yn y pen draw, i greu eu hanes eu hunain. Yr iaith Fasgeg yw hanfod Gwlad y Basg.”
“Yng Nghymru, mae gennym yr ewyllys a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn datblygu, a’i bod yn berthnasol i'r byd modern; mae angen i ni wneud y defnydd gorau posib ohonynt. “Mae unieithrwydd yn perthyn i'r oes a fu; y nod yw bod pawb ym medru ei famiaith, ac o leiaf un iaith arall. Yng Nghymru, rydym yn ffodus i fyw mewn cymdeithas ddwyieithog, a rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn sydd gennym.”