Mae £2.5 miliwn wedi’i neilltuo i helpu oedolion i ddysgu Cymraeg yn y gweithle yn ôl cyhoeddiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, heddiw.
Rhoddwyd y cyllid i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol barhau â’i rhaglen Cymraeg Gwaith a ddechreuodd ym mis Ebrill 2017. Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant a chymorth sy’n amrywio o wybodaeth a chyngor i gyflogwyr i gyrsiau ar-lein, dwys neu breswyl i gyflogeion.
Mae dros 4,000 o bobl mewn gweithleoedd ledled Cymru wedi cymryd rhan yng nghyrsiau Cymraeg Gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Mae hyn gryn dipyn yn uwch na’r niferoedd targed ar ddechrau’r rhaglen. Yn ystod ail flwyddyn y rhaglen, bydd nifer o gyrsiau wedi’u teilwra i sectorau penodol, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol a manwerthu, yn cael eu datblygu. Bydd rhaglen o gyrsiau wedi’i datblygu’n benodol i’r bobl hynny sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant yn cael ei chyflwyno hefyd.
Gan gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog:
“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn ac er bod addysgu ein plant a’n pobl ifanc yn rhan bwysig iawn o’r cynllun, ni allwn ddibynnu arnyn nhw yn unig. Mae angen i oedolion ddatblygu sgiliau Cymraeg hefyd gan gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle ac ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael drwy’r Gymraeg.”
Ymhlith yr amryw sefydliadau sydd wedi elwa ar Cymraeg Gwaith y mae BT Cymru a Chyngor Ceredigion.
Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwr BT Cymru:
“BT Cymru oedd y cwmni cyntaf yn y sector preifat i ymuno â rhaglen Cymraeg Gwaith a fu’n gyfrifol am gyflwyno rhaglen wedi’i theilwra i’n cydweithwyr yn ein swyddfeydd yn Abertawe a Chaerdydd. Mae’r cynllun wedi rhoi cyfle i’n cydweithwyr ddysgu a gwella eu Cymraeg gan fagu hyder hefyd i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle.”
Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:
“Mae tîm Cymraeg Gwaith wedi gweithio’n agos â ni i gyflwyno hyfforddiant arbenigol ac opsiynau dysgu hyblyg sydd wedi’u hariannu’n llawn. Mae’r cynllun wedi’n galluogi ni i gefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithwyr ac i ddiwallu angen busnes i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i’n defnyddwyr. Rydyn ni wrth ein bodd â’r canlyniadau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau ar ein taith i ddysgu Cymraeg.”
Ychwanegol Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Rydyn ni’n croesawu’r arian ychwanegol yma ar gyfer Cymraeg Gwaith sydd eisoes wedi bod yn rhaglen boblogaidd ac wedi rhoi cyfleoedd o’r newydd i filoedd o bobl ledled Cymru wella eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni’n gweithio’n agos â chyflogwyr i addasu a theilwra’r cynllun i wahanol sectorau ac rydyn ni’n gallu cynnig hyfforddiant priodol i ddiwallu anghenion busnes amrywiol. Mae galw mawr gan gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd am y cynllun ac edrychwn ymlaen at gyflwyno nifer o gyrsiau newydd dros y misoedd sydd i ddod.”