Mae Prif Weinidog Cymru a Gweinidog y Gymraeg wedi cyhoeddi'n swyddogol gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 yn yr Eisteddfod yn y Fenni.
Mae'r papur ymgynghori'n amlinellu uchelgais i greu Cymru sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu’r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.
Mae'r cynigion yn gosod cyfeiriad uchelgeisiol ar gyfer pob maes sy'n dylanwadu ar yr iaith ac yn cydnabod bod angen i ni fod yn greadigol os ydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.
Maent hefyd yn cydnabod bod angen i'r Llywodraeth arwain y drafodaeth, ond hefyd gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau a chyrff eraill er mwyn rhoi lle canolog i'r iaith mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddiwedd mis Hydref ac mae'n nodi chwe maes allweddol i'w trafod:
- Cynllunio - Mae'r Gymraeg yn eiddo i ni gyd - mae angen ei chynnwys mewn prosesau cynllunio strategol er mwyn ei gwneud yn rhan o bob agwedd ar fywyd.
- Gwneud yr iaith yn rhan normal o fywyd bob dydd - Mae ewyllys da yn bwysig. Rydym am weld y rheini sy'n siarad Cymraeg yn ei defnyddio, ac rydym am i'r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg deimlo parch ac ewyllys da tuag ati.
- Addysg - Mae'r system addysg yn bwysig o ran cyflwyno'r Gymraeg, boed hynny yn yr ysgol neu’r coleg neu wrth ddysgu fel oedolyn.
- Pobl - Rydym am i fwy o siaradwyr Cymraeg drosglwyddo'r iaith i'w plant ac rydym am weld mwy o leoedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio, fel gweithleoedd, a mwy o gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol.
- Cefnogaeth - Mae angen sylfeini cadarn er mwyn i'r iaith dyfu. Rydym am i’r hanfodion, o eiriaduron i adnoddau digidol, gael eu datblygu i helpu pobl i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyfryngau Cymraeg amrywiol a pherthnasol.
- Hawliau - Mae cyfreithiau yn rhoi statws swyddogol i'r iaith yng Nghymru. Mae deddfwriaeth yn bodoli eisoes i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn Gymraeg - rydym am sicrhau bod y cyfreithiau hyn yn parhau'n effeithiol ac yn gyfoes.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Rydym yn genedl sy’n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod o’r dechrau’n deg gyfraniad sylweddol ein hiaith at ein gorffennol, ein hanes a'n diwylliant byw, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Ers datganoli, rydym wedi dangos ymrwymiad cadarn i gynnal a thyfu'r iaith. Yn 2011, cyflwynwyd deddfwriaeth i ddiogelu dyfodol yr iaith, ac rydym yn hyderus y bydd y drafodaeth yr ydym yn ei lansio heddiw yn ein helpu i barhau i dyfu'r iaith fel ei bod yn ffynnu fel rhan fywiog, fyw o'n cymunedau.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl - y siaradwyr Cymraeg ar draws y wlad, boed yn siaradwyr rhugl, yn siaradwyr llai hyderus neu'n ddysgwyr. Mae angen i ni barhau i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr. Mae ein hiaith yn dylanwadu ar gerddoriaeth, storïau, traddodiadau a bywyd bob dydd.
"Mae cymunedau bywiog Cymraeg eu hiaith yn cyfrannu at amrywiaeth y wlad, gan wneud Cymru'n wlad heb ei hail i fyw ynddi neu ymweld â hi. Fodd bynnag, ni all y Llywodraeth gyflawni hyn heb help. Felly, rwy'n awyddus i Gymru gyfan fod yn rhan o’r drafodaeth hon."
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
"Mae'n bleser cael arwain y drafodaeth genedlaethol hon ynghylch sut allwn gryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws y wlad, a sicrhau bod Cymru'n wlad ddwyieithog go iawn ac nid ar bapur neu mewn areithiau yn unig.
"Rydym am i bawb gael cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch, a bod hyn yn cael ei weld fel rhan annatod o'r ddarpariaeth gyffredinol yn hytrach na rhywbeth ar wahân.
"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr yn darged sy'n fwriadol uchelgeisiol. Mae heriau o'n blaenau, ond gallwn wynebu'r rheini heb os gan wybod ein bod yn adeiladu ar sylfaen gref.
"Mae creu gwlad ddwyieithog yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r genedl gyfan ei wneud gyda'i gilydd. Ni all gwleidydd orfodi hyn, ond gall arwain y ffordd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg a chael addysg Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad, a’u bod wedyn yn hyderus i ddefnyddio'r iaith ac yn dymuno ei defnyddio ar bob adeg.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb ddweud eu dweud ar ddyfodol yr hyn y gellid ei galw’n ased gorau'r wlad. Rwy'n hyderus y bydd yn ein galluogi i symud yr iaith yn ei blaen mewn ffordd ragweithiol a chymesur.”