Mae prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i wella llif y traffig wrth gylchfan Cyffordd 28 ar yr M4 wedi’i agor yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates.
Nod y prosiect gwerth £13.7 miliwn, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2017, yw lleihau oedi ar yr M4 ac annog mwy o fodurwyr i ddefnyddio’r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yng Nghasnewydd.
Heddiw (dydd Mercher, 21 Tachwedd) mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates wedi plannu coeden ger y cylchfan i nodi agoriad swyddogol y prosiect.
Bydd plannu’r goeden yn helpu i ddatblygu menter Coridorau Gwyrdd Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio gwella tirwedd ac ansawdd amgylcheddol y rhwydwaith trafnidiaeth trefol a gwledig yng Nghymru.
Ar adegau prysur, mae dros 6,000 o gerbydau’n defnyddio’r cylchfan bob awr, ynghyd â chylchfannau cyfagos Basaleg a Phont Ebbw.
Mae manteision y gwaith yn cynnwys llai o oedi wrth deithio rhwng yr M4, yr A48, yr A467 a’r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol, ynghyd â gwella diogelwch y ffyrdd wrth y cyffyrdd.
Y gobaith yw y bydd gwelliannau i bob un o’r tair cyffordd yn hybu adfywio economaidd trwy ddarparu mynediad i swyddi, teithiau diogel a dibynadwy ac yn gwella cydnerthedd y gefnffordd a’r rhwydwaith lleol yn y De-ddwyrain.
Yn ystod y seremoni, roedd cyfle i Ken Skates weld uned efelychu gyrru sy’n cael ei datblygu gan gwmni Arup, dylunydd y prosiect. Mae’r prosiect yn defnyddio rhith-wirionedd a thechnoleg gemau cyfrifiadurol i ddatblygu efelychydd sy’n galluogi pobl i edrych ar ddyluniadau.
Wrth ddatblygu’r prototeip, mae Arup wedi defnyddio data o ddyluniad prosiect Cyffordd 28 i greu efelychydd gyrru.
Meddai Ken Skates yn y seremoni i agor y prosiect:
“Rwyf wrth fy modd yn nodi bod y prosiect adeiladu hwn gwerth £13.7 miliwn wedi’i gwblhau. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb i lif y traffig ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal.
“Bydd y gwaith adeiladu hanfodol hwn yn helpu miloedd o fodurwyr bob dydd ger cyffordd sy’n gysylltiad allweddol rhwng yr M4 ac ardal gyflogaeth bwysig gorllewin Casnewydd. Hefyd, mae’r gyffordd yn ddolen gyswllt rhwng ardal ddwyreiniol Cymoedd y De a gorllewin Casnewydd, felly dylai’r prosiect adeiladu hwn gael effaith enfawr ar gysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer modurwyr.
“Roeddwn wrth fy modd yn gweld yr efelychydd rhith-wirionedd a helpodd i gynllunio’r prosiect hwn, ac roedd yn ddiddorol dysgu am y dechnoleg ddiweddaraf a fydd yn cael ei defnyddio yn y dyfodol.
“Mae’n bwysig bod gennym rwydwaith trafnidiaeth cadarn ledled Cymru sy’n gallu cefnogi busnesau a’r boblogaeth yn ehangach. Mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn ein seilwaith trwy brosiectau fel hyn a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i gefnogi economi Cymru.”
Meddai Tom Kenyon, Rheolwr Prosiectau Costain, Prif Gontractwr cynllun gwella C28 yr M4:
“Rydym wrth ein bodd yn cwblhau’r prosiect pwysig hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd sy’n teithio a’r cymunedau cyfagos am eu goddefgarwch a’u cefnogaeth yn ystod 20 mis y rhaglen adeiladu.
“Mae rhywfaint o waith yn parhau ar yr A467 i wella llif y traffig sy’n teithio i gyfeiriad y de yn ystod oriau brig y bore, ond fel arall mae’n ymddangos bod y trefniadau newydd yn effeithiol iawn.”