Mae'r Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth, Ken Skates yn annog pobl i rannu eu barn ar yr opsiwn arfaethedig i gael pont newydd dros yr Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint.
Mae ymgynghoriad 12 wythnos yn dechrau heddiw tan 4 Chwefror 2019 ar yr opsiwn a ffefrir i uwchraddio Pont Afon Dyfrdwy a gafodd ei nodi yn 'Symud Cymru Ymlaen' gan Lywodraeth Cymru, er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal a sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol.
Cafodd y bont bresennol ei hadeiladu yn 1960 ac mae ar hyn o bryd yn cludo dros 61,000 o gerbydau y dydd, sy'n llawer uwch na'r hyn a fwriadwyd.
Oherwydd oedran y bont, mae tystiolaeth bod y prif nodweddion strwythurol yn dirywio a fyddai'n galw am waith trwsio sylweddol. Byddai mynd i'r afael â'r dirywiad yn arwain at gau y bont am gyfnodau maith gan achosi oedi sylweddol ac annerbyniol, a tharfu ar y rhwydwaith cefnffyrdd a ffyrdd lleol yn yr ardal.
Byddai'r cynnig yn golygu pont newydd ar gyfer traffig i'r gorllewin gan newid strwythur presennol y traffig i'r dwyrain. Byddai gan y ddwy bont dair ffordd a llain galed. Byddai llwybr wedi'i rannu i gerddwyr a beicwyr yn cael ei gynnwys hefyd, gan gysylltu'r bont newydd dros yr Afon Dyfrdwy â Ffordd yr Orsaf.
Byddai'r cynnig yn golygu dod â'r rhan hon o'r ffordd i safonau heddiw, gan sicrhau bod y traffig yn rhedeg yn esmwyth a chryfhau'r ffordd.
Yn ystod y cyfnod o adeiladu'r cynllun arfaethedig, byddai dwy ffordd yn y ddau gyfeiriad yn parhau ar agor ar y bont bresennol i darfu llai ar yr A494 a'r rhwydwaith ffyrdd lleol. Mae'n bosibl y byddai achosion pan fyddai angen ei lleihau i un ffordd, ond byddai hyn yn digwydd mor anaml â phosib a dim ond am gyfnod byr.
Bydd Ymgynghori â'r Cyhoedd, ble y gall bobl ddysgu mwy am yr opsiwn a ffefrir ac yn cynnig sylwadau arno. Cynhelir rhain yn Neuadd Eglwys St Andrews, Garden City ddydd Mawrth, 20 Tachwedd rhwng 2pm ac 8pm ac yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn 24 Tachwedd rhwng 10am-4pm. Mae'r ddau ddigwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae'r A494 yn lwybr economaidd pwysig sy'n cysylltu Gogledd Cymru gyda Gogledd-orllewin Lloegr a thu hwnt.
"Mae newid hen bont yr A494 dros yr Afon Dyfrdwy am ddwy bont nid yn unig yn gwella diogelwch, ond hefyd yn golygu y gall y ffordd ymdopi'n well, ac yn gwneud amser teithio yn fwy dibynadwy. Bydd hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau ansawdd yr aer, fydd yn gwella iechyd a lles trigolion lleol.
"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth yn seilwaith trafnidiaeth Gogledd-orllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf, ac yn sicrhau bod yr adran hon o'r A494 yn addas at y dyfodol, sy'n hollol hanfodol. Mae hwn yn rhan allweddol o'n cynlluniau ar gyfer y rhanbarth, a dwi'n falch ein bod yn symud ymlaen i gam nesaf y datblygiad.
"Mae'r Ymgynghoriadau Cyhoeddus yn gyfle gwych i bobl weld yr opsiwn a ffefrir, holi cwestiynau a gadael sylwadau. Dwi'n annog pawb sydd â diddordeb i adael inni wybod eu barn ynghylch y cynllun arfaethedig cyn ddydd Llun 4 Chwefror pan fydd yr ymgynghoriad yn cau. Bydd pob ymateb yn cael ei ystyried yn ofalus a bydd yn tu hwnt o werthfawr wrth lunio dyluniad terfynol y cynnig."
Mae rhagor o fanylion ynghylch cynnig Pont Afon Dyfrdwy, digwyddiadau ymgynghori â'r cyhoedd a sut i rannu eich safbwyntiau i'w gweld ar: https://beta.llyw.cymru/cynllun-gwella-pont-afon-dyfrdwy-a494.