Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar gysylltiadau ffordd strategol yng Nghymru fel rhan o hwb ariannol gwerth £2 filiwn.
Caiff y £2 filiwn, sy'n deillio o gytundeb y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, ei defnyddio ar gyfer creu rhwydwaith cenedlaethol o bwyntiau gwefru cyflym i’r cyhoedd erbyn 2020.
Byddwn yn canolbwyntio ar leoliadau ar neu gerllaw ein rhwydweithiau ffyrdd strategol, gan roi pwyslais arbennig ar deithiau rhwng y Gogledd a’r De a rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin.
Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, ei fod hefyd wedi gofyn i swyddogion ystyried pa mor ymarferol fyddai hi i gyllido pwyntiau gwefru mewn cyfleusterau parcio a theithio ac mewn safleoedd tacsis.
Cadarnhaodd ei fod yn dymuno gweld model consesiwn cenedlaethol a fyddai'n cyflenwi ac yn cynnal y rhwydwaith, lle y byddai gan gontractwr yr hawl i weithredu, cynnal a chadw a buddsoddi yn y rhwydwaith. Mae'n rhagweld y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am gaffael a goruchwylio'r contract.
Meddai Ken Skates:
"Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo'r defnydd o gerbydau trydan a cherbydau hybrid wrth i ni annog pobl i ystyried peidio â phrynu cerbydau petrol a diesel.
"Bydd y cyllid hwn ar gyfer pwyntiau gwefru trydan yn hwb sylweddol i'r rhwydwaith a bydd yn helpu modurwyr sy'n awyddus i ddefnyddio cerbydau trydan ar gyfer teithiau hirach.
"Yn sicr gallai hyn sbarduno cryn newid wrth i ni geisio hybu'r defnydd o gerbydau trydan. Rydym wedi dewis canolbwyntio ar y llwybrau rhwng y De a'r Gogledd a rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin gan ein bod yn ymwybodol o'u pwysigrwydd i bobl sy'n teithio o amgylch Cymru.
"O ystyried yr hinsawdd sydd ohoni mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn anelu at wella cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy, gan gynyddu ein hopsiynau teithio carbon isel a sicrhau ei bod mor ddidrafferth â phosibl i deithio o fewn Cymru.
"Mae'r cyllid hwn yn tystio'n glir i'n hymrwymiad i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a hefyd i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ac i wella ansawdd yr aer."
Ar hyn o bryd mae 500 o bwyntiau gwefru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru ac mae 2,500 o gerbydau plygio i mewn.
Gan fod nifer y ceir trydan a'r ceir hybrid newydd sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru wedi cynyddu 35% yn 2017 mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn helpu i ateb y galw cynyddol am bwyntiau gwefru ac y bydd yn annog mwy o bobl yng Nghymru i fuddsoddi mewn cerbydau trydan.