Gyda llai nag wythnos i fynd tan i Drafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau am redeg gwasanaethau trenau Cymru a'r Gororau, disgrifiwyd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates rhai o'r myrdd newidiadau.
Bydd rhai o'r gwelliannau, fydd yn gweddnewid gwasanaethau trenau i bobl a chymunedau ledled Cymru a'r gororau, yn digwydd ar unwaith, gan gynnwys gwefan ac app newydd i gwsmeriaid, brandio newydd ar y rhwydwaith a gwella'r gwasanaethau Cymraeg. Caiff gwelliannau eraill eu cyflwyno cyn gynted ag y medrir. Yn eu plith y mae cynlluniau i wario £194m ar wella gorsafoedd, gan gynnwys adeiladu pum gorsaf newydd a glanhau gorsafoedd yn drylwyr o fis Rhagfyr eleni ymlaen.
Meddai Ken Skates:
"Nid prosiect trafnidiaeth traddodiadol mo'n cynlluniau ni - nhw fydd y gwreichionyn fydd yn tanio adfywiad economaidd ehangach. Rhaid iddyn nhw helpu unigolion, busnesau a chymunedau y mae angen system trafnidiaeth integredig a dibynadwy arnynt i'w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, i helpu eu busnesau i ehangu ac i ddenu buddsoddiad newydd i'w trefi.
Mae prosiect y Metro yn golygu mwy na delio â phroblemau teithio heddiw. Rhaid iddo greu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol - nid o safbwynt trafnidiaeth yn unig, ond o ran effaith seilwaith y Metro ar y posibiliadau economaidd i bobl ledled y De."
Bydd contract rheilffordd newydd Cymru a'r Gororau yn dod â manteision eraill hefyd:
- Caiff 600 o staff newydd eu recriwtio i ddarparu'r gwasanaeth mewn amrywiaeth o rolau a chaiff 450 o brentisiaid newydd (30 bob blwyddyn) eu cyflogi hefyd dros oes y contract.
- Caiff £1.9bn ei fuddsoddi i wella profiadau teithwyr ar y trenau, gan gynnwys buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau, gan roi hwb o 65% yng nghapasiti'r gwasanaeth.
- Erbyn 2023, bydd 95 y cant o'r teithiau'n cael eu gwneud ar 148 o drenau newydd sbon, gyda thros eu hanner yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.
- Bydd 100 y cant o’r Metro Canolog yn rhedeg ar drydan, gyda 100 y cant o'r trydan hwnnw'n dod o ffynonellau adnewyddadwy, a 50 y cant o'r trydan hwnnw'n dod o Gymru.
- Erbyn diwedd 2023, bydd teithwyr yn gallu elwa ar 285 o wasanaethau ychwanegol bob dydd o'r wythnos waith ledled Cymru (cynnydd o 29%). Bydd y rheini'n cynnwys gwelliannau i linellau Glyn Ebwy a Wrecsam-Bidston ac i linellau Cambria a Chalon Cymru.
- O fis Rhagfyr 2022, bydd yna gynnydd o 28 y cant ym mhellter gwasanaethau dydd Sul, gan greu gwasanaeth saith niwrnod yr wythnos.
Bydd tocynnau clyfar yn sicrhau tocynnau mwy hyblyg a chaiff tocynnau rhatach ar yr adegau llai prysur eu cyflwyno, gan gynnwys tocynnau rhatach yn y Gogledd ac yn rhyw 50 y cant o orsafoedd y Cymoedd.
Bydd rhan o'r contract newydd yn cynnwys darparu cam nesa' prosiect £738miliwn Metro'r De a chyhoeddwyd £119m cyntaf hwnnw gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wythnos ddiwethaf.
Wrth annerch y gynhadledd 'Y Metro a Fi' heddiw ar gyfer arweinwyr byd busnes (Llun, 8 Hydref), cafodd y cynrychiolwyr wybod y diweddaraf gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford gydag e'n dweud:
"Mae'n cynlluniau'n fwy na phrosiect trafnidiaeth traddodiadol. Bydd y Metro'n gwireddu nifer o'n hamcanion polisi trwy greu rhwydwaith fydd yn gwasanaethu cymunedau, fydd yn hygyrch i bawb ac yn gweithio saith niwrnod yr wythnos.
Bydd yn cynyddu mudoledd cymdeithasol ac yn cynyddu mynediad, gan gysylltu pobl a chymunedau â chyfleoedd gwaith a chyfleusterau addysg, iechyd a hamdden."