Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi camu i mewn i sicrhau bod y prosesau ar Ffin y DU yn fwy effeithiol ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
Bydd grant diogelwch o £1miliwn yn galluogi prynu a gosod e-glwydi â'r dechnoleg ddiweddaraf, sy'n caniatáu i deithwyr sydd â phasbortau biometrig i symud yn gyflym drwy wiriadau ar y ffin ac i osgoi aros yn hir am archwiliadau dogfennau â llaw. Byddant yn cael eu gosod ac yn gweithio'n llawn erbyn Mawrth 2019.
Er mai Maes Awyr Caerdydd oedd un o'r meysydd awyr cyntaf yn y DU i gyflwyno e-glwydi, mae'r rhain wedi eu symud ers hynny gan Luoedd Ffiniau'r DU wrth i'r dechnoleg ar gyfer yr e-glwydi gwreiddiol gael ei wella.
Gan bod polisi Llywodraeth Cymru ond yn caniatáu i e-glwydi gael eu gosod yn rhad ac am ddim gan Luoedd Ffiniau'r DU pan fydd dros 2 filiwn o deithwyr yn cyrraedd y wlad, megis ym Mryste a Heathrow, roedd Lluoedd Ffiniau'r DU am dderbyn taliad cyfalaf sylweddol i osod e-glwydi newydd ym Maes Awyr Caerdydd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Ers prynu Maes Awyr Caerdydd yn 2013, mae wedi gweld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y teithwyr, gyda thwf mewn rhifau dwbl yn cael ei ragweld ar gyfer eleni, heb sôn am y llwybrau newydd niferus a mwy o gapasiti yn cael ei ychwanegu ar wasanaethau presennol.
Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, ac wedi croesawu miliwn o deithwyr eisoes eleni, nid yw'r Maes Awyr wedi cyrraedd carreg filltir Llywodraeth y DU o 2 filiwn o deithwyr, a fyddai'n golygu eu bod yn gymwys am e-glwydi am ddim.
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater o e-glwydi nifer o weithiau, gan dynnu sylw at annhegwch rhoi cymhorthdal i feysydd awyr mwy tra'n gwahaniaethu yn erbyn y rhai llai. Fodd bynnag mae Lluoedd Ffiniau'r DU wedi anwybyddu'r dadleuon hyn.
Nid oes amheuaeth bod yr e-glwydi yn ddull mwy effeithiol o brosesu teithwyr, gan leihau amser aros a sicrhau bod y profiad i'r cwsmer yn well, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu camu i mewn i sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd yn elwa o'r un dechnoleg hanfodol y mae meysydd awyr mwy a mwy proffidiol wedi'i dderbyn yn ddi-dâl. Dyma arwydd arall o'n hymrwymiad i gefnogi llwyddiant a thwf parhaus Maes Awyr Caerdydd."