Mae gan bob un ohonom swyddogaeth bwysig o sicrhau nad oes sbwriel ar ein ffyrdd ac ar ochr ein ffyrdd, yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Mae ymgyrch gwrth-sbwriel sydd wedi para mis sy'n defnyddio arwyddion electronig ar gyffyrdd ledled Cymru wedi'u defnyddio i annog defnyddwyr ffyrdd i feddwl yn ofalus ynghylch cael gwared ar wastraff.
Gall grŵp o chwech o weithwyr gostio mwy na £1,000 y noson i glirio sbwriel o ran 2km o gefnffordd ac ar ochr y ffordd, tra bod y gost o gau ffordd i wneud hynny yn costio dros £2,600 y noson.
O dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi sbwriel a symud gweddillion oddi ar yr M4, M48, A48(M) a'r rhan o'r ffordd rhwng Llanddulas a Morfa Conwy ar yr A55. Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am godi sbwriel, symud gweddillion a gwagio biniau ar y cefnffyrdd a'r rhwydwaith ffyrdd lleol sy'n weddill.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Er bod y mwyafrif llethol o bobl yn gwneud y peth iawn ac yn cludo sbwriel i'w cerbydau tan iddynt ddod o hyd i fin i gael gwared ohono, mae pobl eraill yn anffodus nad ydynt yn gwneud hyn.
"Mae sbwriel ar ein ffyrdd yn ddrud ac mae goblygiadau pellgyrhaeddol i hyn, o gael effaith ar ein heconomi i ddifetha ein hamgylchedd a rhoi diogelwch gyrwyr eraill mewn perygl. Y rhwystredigaeth yw bod yn rhaid cau ffyrdd er mwyn codi sbwriel, sy'n rhywbeth y byddai'n well gan bob un ohonom ei osgoi ar ein rhwydwaith os nad oes yn rhaid gwneud hyn.
"Rydym yn derbyn nifer o gwynion ynghylch sbwriel ar ein rhwydwaith ffyrdd ac er ein bod yn cydweithio'n agos â'r awdurdodau lleol i gydlynu'r gweithgareddau codi sbwriel, mae hwn yn fater y mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae. Rwy'n annog pawb i chwarae eu rhan a thrwy gydweithio tuag at yr un nod, gallwn helpu i sicrhau bod ein ffyrdd a'n cefnffyrdd yn fwy diogel, yn daclusach a heb sbwriel."
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn:
"Mae ymddwyn yn gyfrifol wrth gael gwared ar sbwriel yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel ac yn lân. Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau megis Cadwch Gymru'n Daclus i helpu i greu amgylchedd lanach, mwy pleserus inni i gyd fyw ynddo. Drwy fynd â sbwriel adref a'i ailgylchu neu ei roi yn y bin, gallwn chwarae ein rhan, nid ar gyfer yr amgylchedd yn unig, ond hefyd ein heconomi."