Mae gwaith wedi dechrau ar ffordd newydd ym Mro Morgannwg a fydd yn cyflawni tri nod allweddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15.5 miliwn yn Ffordd Fynediad y Gogledd a fydd yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith priffyrdd sy'n arwain at Ardaloedd Menter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd.
Yn ogystal â darparu mynediad angenrheidiol i'r parc busnes, mae'r dyluniad wedi cynnwys gwaith amddiffyn amgylcheddol i helpu i warchod pentrefi Llan-maes a Threbefered rhag llifogydd.
Wedi'i hadeliadu gan Alun Griffiths Contractors Ltd, bydd y Ffordd Fynediad yn 2km o ddarn newydd a fydd yn cysylltu ag Eglwys Brewis Road a'r B4265. Fe'i datblygwyd i ddenu traffig o Sain Tathan ac Eglwys Brewis Road i greu gwell amgylchedd lleol a llwybr mwy diogel i'r ysgol i blant.
Wrth dorri'r dywarchen i nodi dechrau'r gwaith, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae mynediad di-rwystr i'r Parc Busnes Awyrofod yn hanfodol i'w alluogi i gystadlu ar lwyfan byd-eang ac i sicrhau'r manteision economaidd gorau posibl sy'n deillio o hynny.
"Mae Ffordd Fynediad y Gogledd yn rhoi mynediad sy'n addas i'r diben i briffyrdd ar gyfer cerbydau o bob maint, gan gynnwys cerbydau logisteg. Bydd y ffordd newydd yn gallu ymdopi â thwf yn y dyfodol ac mae'n ateb yr anghenion a nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol yr ardal.
"Mae'r prosiect unigol hwn yn cyflawni tair rôl bwysig, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu buddsoddi ynddo".
Dywedodd Alun Smith, Cyfarwyddwr Alun Griffiths (Contractors) Ltd:
"Rydym wrth ein bodd bod ein cynnig i helpu Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus a'n bod wedi gallu gwella'r seilwaith o amgylch ardal Sain Tathan. Bydd hynny'n sicrhau y caiff y Parc Busnes Awyrofod ei ddatblygu i'w llawn botensial. Mae tîm y prosiect yn gwbl ymrwymedig i gyflawni'r cynllun o fewn yr amserlen a'r gyllideb, er ei fod wedi gorfod ymdrin ag ambell her ar hyd y daith. Ein prif nod yw cyflawni'r prosiect yn ddiogel gan darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol a theithwyr".
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:
“Mae datblygiadau economaidd y Fro yn mynd o nerth i nerth ac mae’r prosiect hwn yn un enghraifft o lawer a fydd yn sicrhau ffyniant yn yr ardal dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cysylltiadau trafnidiaeth yn allweddol i lwyddiant y parc busnes a’r ardal fenter ehangach yn gyffredinol. Bydd y cynllun hwn hefyd yn sicrhau manteision i drigolion lleol drwy dawelu traffig yn y pentrefi cyfagos a sicrhau bod plant yn gallu cerdded yn ddiogel i’r ysgolion. Rwyf wrth fy modd bod y gwaith paratoi wedi dod i ben a bod y gwaith adeiladu yn awr yn gallu dechrau.”
Dechreuwyd gwaith pellach ym mis Ionawr gan osod llain o uwchbridd, ynghyd â ffensiau a gwaith archwilio archeolegol. Darganfuwyd rhai mân bethau hanesyddol yn yr archwiliad, ond dim byd arwyddocaol a fyddai'n oedi'r gwaith adeiladu. Rhagwelir y bydd y prosiect yn dod i ben yn hydref 2019.