Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu prynu gwerth £6 miliwn o gyfrannau ym Maes Awyr Caerdydd ar ôl y newyddion bod yr hyb trafnidiaeth wedi cyrraedd ei dargedau yn gynnar
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae'n amlwg bod hwn yn fuddsoddiad nid yn unig yn y maes awyr, ond yng Nghymru hefyd.
"Rydyn ni’n rhoi £6 miliwn o ecwiti i mewn i’r busnes yn gyfnewid am gyfrannau cyffredin, a disgwylir i’r cyllid hwnnw ychwanegu rhyw £12 miliwn at werth ecwiti'r maes awyr. Fydden ni ddim yn buddsoddi cymaint â hynny pe na fyddem wedi cael tystiolaeth gadarn am lwyddiant y cynllun sydd ar waith gan y maes awyr er mwyn cyrraedd sefyllfa lle bydd yn gwneud elw.”
Ychwanegodd Ken Skates:
"Pan lansiais i'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi ddiwedd 2017, roeddwn yn cydnabod pa mor bwysig yw cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru, a gyda gweddill y DU a'r byd, i fusnesau ac i bobl. Mae'n amlwg bod Maes Awyr Caerdydd yn rhan sylfaenol o'r ateb i Gymru.
"Ers inni brynu'r maes awyr, mae nifer y teithwyr wedi cynyddu y naill flwyddyn ar ôl y llall, ac mae'r nifer hwnnw bron yn 1.5 miliwn y flwyddyn erbyn hyn. Mae hwn yn dwf o 9% yng nghanran y teithwyr o gymharu â'r llynedd, a hynny ar ben y twf o 16% a welwyd yn 2016.
"Mae’r busnes yn perfformio’n well na’r hyn a ddisgwylid yn amcanestyniadau’r cwmni, ac mae'r cwmnïau hedfan sy'n mynd o Gaerdydd yn hedfan yn uniongyrchol i dros 50 o gyrchfannau, gan gynnwys 9 prifddinas, ac i dros 900 o gyrchfannau drwy 11 o feysydd awyr eraill.
"Mae hyn, ochr yn ochr â lansio Qatar Airways, sy’n cryfhau Maes Awyr Caerdydd ac yn agor drws o Gymru i'r byd mawr ehangach, yn dangos yn glir iawn rai o'r pethau a gyflawnwyd hyd yma."
Nodwyd amrywiaeth o waith cyfalaf yn adeilad y derfynfa ac o'i amgylch a fydd yn caniatáu i'r busnes fanteisio ar lwyddiannau diweddar, i greu cymaint o refeniw â phosibl, ac i hyrwyddo twf pellach. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu hefyd i sicrhau'r lefelau o fodlonrwydd a ddymunir ymhlith cwsmeriaid a dylai hynny, yn ei dro, ddenu teithwyr newydd yn ogystal â denu teithwyr i ddod yn ôl dro ar ôl tro.
Dywedodd Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd:
"Ar ran Bwrdd Maes Awyr Caerdydd, hoffwn ddiolch i'n cyfranddaliwr, Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn arwydd amlwg o hyder ym musnes y Maes Awyr a bydd yn ein galluogi i dyfu, i ddatblygu ac i wasanaethu'n cwsmeriaid, ein pobl a Chymru."