Gall teithwyr ledled Cymru fanteisio ar Wi-Fi am ddim ar bob un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r £1.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod holl drenau Arriva Cymru, gan gynnwys trenau Pacer, Class 153’s, a’r cerbydau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer yr Express gogledd-de wedi eu hôl-osod i gynnig Wi-fi am ddim i bob teithiwr.
Bydd y sticer canlynol ar bob trên:
Bydd taflenni gwybodaeth ar gael mewn gorsafoedd a bydd Arriva hefyd yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth i deithwyr, gan rannu siocledi ‘Caru Wi-fi am Ddim’ mewn cyfnewidfeydd prysur.
Wrth siarad mewn digwyddiad lansio i nodi bod y prosiect Wi-fi wedi’i gwblhau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae’r cynllun hwn yn hwb mawr i gymudwyr a defnyddwyr busnes fel ei gilydd. Rwy’n disgwyl iddo wneud cyfraniad gwirioneddol i’n huchelgeisiau o economi sy’n ffynnu, gyda busnesau cryf mewn rhanbarthau cynhyrchiol fel a amlinellir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd Ffyniant i Bawb.
“Yr hyn sy’n bwysig yw bod ein buddsoddiad yn golygu bod gan ein trenau Pacer, Dosbarth 153, a’r cerbydau a ddefnyddir ar ein trenau Express o’r gogledd i’r de Wi-fi am ddim bellach i bob teithiwr. Mae’r trenau hyn yn oddeutu un rhan o dair o’r fflyd.
“Bydd teithwyr ledled rheilffordd Cledrau’r Cymoedd a Gorllewin Cymru – gan gynnwys Rheilffordd Calon Cymru – bellach yn elwa o’r cysylltedd hanfodol hwn. Dyma enghraifft arall o’n hanes o fuddsoddi yn y fasnachfraint reilffordd bresennol, ble yr ydym yn parhau i ariannu gwasanaethau a chapasiti ychwanegol ledled Cymru.”
Meddai Ian Price, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru:
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld newid agwedd pendant ynghylch pwysigrwydd cysylltedd ym myd busnes.
“Bu hefyd dwf sylweddol mewn cymwysiadau cyfrifiadurol o bell, gyda data a phrosesu’n digwydd mewn ‘cwmwl’. Mae mentrau bychain a mawr bellach yn defnyddio mwy ar gymwysiadau ar y rhyngrwyd i reoli eu busnesau.
“Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yng nghyd-destun y berthynas rhwng y cyflenwr a’r client; ble y mae nid yn unig y cyflymder mynediad yn hollbwysig, ond hefyd ble y mae cyflymder yr ymateb i gynnwys, delweddau a data y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ffyrdd o benderfynu pa mor effeithiol yw busnes wrth ymateb i anghenion eu cwsmeriaid.”
Meddai Tom Joyner, Rheolwr-gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru:
“Mae’r ffaith y bydd pob un o’n cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein wi-fi am ddim ar bob un o’n trenau yn newyddion gwych, ac rydym yn falch o nodi bod y prosiect hwn wedi’i gwblhau.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cysylltedd, a bydd gallu bod yn gynhyrchiol yn ystod eich taith, edrych ar eich cynlluniau i deithio ymlaen, neu dim ond edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cwsmeriaid.”
“Mae cwsmeriaid wedi holi yn aml am Wi-fi ar ein trenau, a bu hwn yn brosiect pwysig sydd wedi golygu cynllunio gofalus a channoedd o oriau staff i gyflawni hyn yn llwyddiannus heb gael effaith ar ein gwasanaethau.”