Llywodraeth Cymru yn cael ei roi i wella’r seilwaith i gerddwyr a beicwyr, gwella diogelwch a chefnogi economi Cymru.
Bydd y cyllid yn galluogi i welliannau teithio sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu hategu gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gael eu cwblhau yn gynt.
Bydd pum deg a phedwar o gynlluniau teithio llesol a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru yn cael cyfran o £8m.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae gwahanol ardaloedd o Gymru yn rhoi gwahanol heriau i chi o ran teithio. Rydym yn gwybod bod y cyfleoedd i gerdded ac i feicio bob dydd yn amrywio. Mae’n dibynnu os ydych chi yn y wlad neu yn y dref.
“Mae’r cynlluniau lleol sy’n cael rhan o’r £8.1m hwn gennym, yn ffordd syml iawn o wneud yn siŵr bod gweithgareddau corfforol yn rhan o’ch bywyd dyddiol, a hynny yn ei dro yn arwain at ysgogi gwell iechyd a llesiant.
“Hefyd, rydym yn gwybod bod y buddsoddiad hwn mewn teithio llesol yn mynd i leihau faint o gerbydau sydd ar ein ffyrdd. Oherwydd hynny bydd lleihad yn y llygredd sydd yn yr aer, allyriadau carbon a’r tagfeydd traffig. Bydd hefyd yn rhoi gwell cysylltiadau i’n cymunedau ac yn gwella mynediad at addysg, swyddi a gwasanaethau, heb sôn am leihau’r costau teithio i nifer o deuluoedd yng Nghymru.”