Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwahodd pobl i rannu eu safbwyntiau ar gynigion ar gyfer trydydd pont ar draws y Fenai.
Bydd yr ymgynghoriad, sy’n dechrau heddiw yn parhau tan ddydd Gwener, 9 Mawrth a bydd yn edrych ar y pedwar opsiwn ar gyfer cynyddu capasiti a sicrhau bod y rhwydwaith yn well ar draws yr Afon Menai, gyda’r nod o gyhoeddi llwybr a ffefrir erbyn yr haf 2018.
Yr opsiynau yw:-
Opsiwn Coch:
- Pont newydd yn union i’r gorllewin o Bont Britannia
- Gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55
Opsiwn Pinc:
- Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i’r dwyrain o’r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig
- Gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55
Opsiwn Oren:
- Pont newydd yn union i’r dwyrain o Bont Britannia
- Gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55
Opsiwn Porffor:
- Pont newydd i’r dwyrain o Bont Britannia
- Gwelliannau i Gyffordd 8 a 8A yr A55
Mae pob Opsiwn yn cynnwys cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr groesi’r Afon Menai naill ai ar y bont newydd neu ar Bont Britannia.
Mae’r cam dylunio a datblygu gwerth £3 miliwn ar gyfer y drydydd bont yn rhan o’r gyllideb ddwy flynedd y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Plaid Cymru.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Dwi wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu trydydd pont ar draws y Fenai ddaw â nifer o fanteision i’r ardal, gan gynnwys mynd i’r afael â thagfeydd ar Bont Britannia a sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn barod am brosiectau mawr megis Wylfa Newydd.
“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £600 miliwn mewn gwelliannau seilwaith trafnidiaeth ar draws y Gogledd dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod gan y rhanbarth y system drafnidiaeth fodern o safon uchel y mae ei hangen i ddatblygu ei photensial ar gyfer twf economaidd.
“Mae’r drydydd bont ar draws y Fenai yn rhan hollbwysig o’n cynlluniau i wella capasiti, dibynadwyedd ac amseroedd teithio yn ogystal â sicrhau bod y rhwydwaith yn well. Rydym yn anelu at ddechrau ar yr adeiladu erbyn diwedd 2020.
“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i’r ardal ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn. Bydd y safbwyntiau hyn yn rhan bwysig o’r broses o bennu llwybr a ffefrir.”
Mae croeso hefyd i bobl fynd i’r Arddangosfeydd Ymgynghori Cyhoeddus sydd hefyd yn cael eu cynnal yn y Neuadd Goffa yn Llanfairpwll ar yr 16eg a’r 17eg o Ionawr, a Thŷ Menai ym Mharc busnes Parc Menai ar 23 & 24 Ionawr rhwng 10am-8pm.
Mae rhagor o fanylion am y cynigion, arddangosfeydd cyhoeddus a sut i rannu eich barn i’w gweld ar: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/trydedd-pont-dros-y-fenai-yr-a55