Mae Ken Skates wedi cadarnhau bod tendrau terfynol wedi cael eu gwahodd ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau. Dyma'r broses gyntaf o’i bath i'w threfnu gan Lywodraeth Cymru.
Yn hytrach na dilyn y model traddodiadol a ddefnyddir wrth gaffael gwasanaethau rheilffyrdd, lle mae cwmnïau yn cyflwyno cynigion ar sail manyleb benodol, mae'r ffordd wahanol hon o weithio wedi caniatáu inni edrych ar syniadau newydd ac i feithrin perthynas o gydweithio ag eraill, gan bennu ethos y gwasanaeth newydd.
Mae'r cynigion ar gyfer Metro De Cymru yn cael eu datblygu ochr yn ochr â gwasanaeth Cymru a'r Gororau er mwyn helpu i ddatblygu system drafnidiaeth integredig yn y rhanbarth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r tendr terfynol yw 21 Rhagfyr.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Dw i'n falch iawn o gadarnhau bod Abellio Rail Cymru, Arriva Rail Wales, KeolisAmey a MTR Corporation (Cymru) Ltd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno tendrau terfynol ar gyfer Gwasanaeth nesaf Cymru a'r Gororau. Gan amrywio o'r cerbydau i ba mor aml y bydd gwasanaethau ar gael, ac o Fetros i drothwyon elw, y tendr terfynol hwn fydd y glasbrint ar gyfer yr hyn y mae'r cewri hyn yn y diwydiant rheilffyrdd am ei gynnig i Gymru.
"Mae'r trafodaethau manwl gyda phob un o'r pedwar cwmni sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi rhoi hyd yn oed fwy o hyder inni y bydd y gwasanaeth newydd yn un llawer gwell. Dw i'n edrych ymlaen at weld sut bydd y tendrau manwl ym mynd i'r afael â'n gofynion uchelgeisiol ar gyfer y 15 mlynedd nesaf cyn inni benderfynu yn gynnar yn 2018 pwy fydd y cwmni llwyddiannus.
"Rydyn ni'n bwriadu creu gwasanaeth rheilffyrdd a fydd o fudd i Gymru gyfan ac i gymunedau ar hyd y ffin ac yn Lloegr. Rydyn ni am weld gwasanaeth sy'n rhoi lle canolog i deithwyr ac mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam pwysig arall at gyrraedd y nod hwnnw."
Wrth wahodd y tendr terfynol ar gyfer y fasnachfraint, rhoddodd Ysgrifennydd yr Economi yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ariannu teg. Dywedodd:
"Mae ewyllys ar y naill ochr a'r llall i sicrhau bod y setliad yn gweithio i Gymru a'r Gororau ac, ar ôl trafodaethau cadarnhaol, rydyn ni ar fin dod i gytundeb. Mae'n newyddion gwych i bobl sy'n defnyddio'r rheilffyrdd yng Nghymru a bydd yn sicrhau bod y gwasanaethau y mae'r Gymru fodern yn ei disgwyl, ac a addawyd iddi, yn cael eu darparu."