Mae’r Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates wedi rhoi diweddariad ar welliannau diweddar ar yr A55.
Dywedodd:
“Yn gyntaf oll, rydym wedi cynnal rhaglen waith ar raddfa fawr dros y 4 blynedd diwethaf er mwyn sicrhau bod twnelau’r A55 yng Nghonwy, Penmaenbach a Phen y Clip yn bodloni’r safonau cyfreithiol a’r safonau dylunio diweddaraf. Rwy’n falch iawn o nodi’r ffaith y daeth y rhaglen i ben neithiwr, a bod twnel Conwy bellach ar agor yn unol â’r arfer. Rwyf bellach yn disgwyl i’r holl waith cynnal a chadw a’r holl waith gwella yn y tymor canol a’r hirdymor gael ei gynnal dros nos.
“Yr wythnos ddiwethaf cafodd llwybr gorllewinol yr A55 yn Abergwyngregyn ei ailagor. Rydym yn gwneud gwaith lliniaru llifogydd ymlaen llaw yma ar hyn o bryd er mwyn gwella cadernid y rhan honno o’r A55. Bydd y gwaith yma’n parhau yn awr mewn modd na fydd yn cael llawer o effaith ar draffig.
“Fodd bynnag, bu achos difrifol yn ddiweddar lle methodd uniad pont yn rhannol ar yr A55 ychydig i’r gorllewin o Landdulas. Bu’n rhaid i ni greu pecyn o waith brys er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar yr A55 petai’r uniad hwnnw’n methu’n llwyr. Rydym felly’n gosod man croesi yn y llain ganol ym Mhont yr Enfys. Mae hyn yn gwbl hanfodol oherwydd byddai methiant yr uniad yn golygu cau cerbytffordd y gorllewin yn llwyr. Trwy osod y man croesi newydd gallwn roi gwrthlif ar waith ar gerbytffordd y dwyrain. Byddai methiant o’r fath yn achosi cryn oedi a heb groesfan yr unig opsiwn fyddai dargyfeirio’r holl draffig, pob awr o’r dydd, i’r hen ffordd o Landdulas i Fae Colwyn (byddai hyn yn creu tarfu tebyg i’r hyn a welwyd yn sgil digwyddiad y tancer cemegau y llynedd, ond am gyfnod llawer hirach).
“Bydd y gwaith ar fan croesi, a fydd yn cael ei wneud o fewn rhaglen heriol iawn gan gontractwyr lleol, yn cael ei gwblhau erbyn dydd Mercher 5 Ebrill fan hwyraf. Nid oes modd dod â’r gwaith hwn i ben ar y penwythnos oherwydd mae’n rhy beryglus i adael bwlch o dros 200 metr yn y llain ganol.
“Mae ein cyflenwyr hefyd wrthi’n dylunio ateb dros dro i uniad y bont a fydd yn sicrhau cefnogaeth ddigonol fel na fydd yr uniad yn methu’n llwyr. Bydd hyn yn caniatáu amser i ni drefnu gwrthlif effeithiol y gaeaf nesaf er mwyn gosod uniad newydd.
“Wrth i’r gwaith barhau dros y penwythnos nesaf byddwn yn estyn negeseuon ar draws y ffin er mwyn rhybuddio modurwyr i ganiatáu amser ychwanegol.
“Yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol o’r ffaith ein bod wedi gosod wyneb newydd ar hyd darnau hir o’r A55 dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r holl waith yma’n cael ei wneud dros nos ac nid yw’n cael fawr ddim effaith ar draffig.
“Rwy’n gobeithio y bydd y manylion uchod yn rhoi’r hyder a’r sicrwydd i chi fod arian yn cael ei fuddsoddi yn yr A55 ar fyrder, a hynny er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fodurwyr. Diogelwch modurwyr yw’r ystyriaeth bwysicaf i mi, ond rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod y seilwaith yn cael ei ddiweddaru’n brydlon.
“Byddaf yn gwahodd newyddiadurwyr i ymweld â safleoedd y gwaith ffordd ar yr A55 yn y dyfodol a byddwn yn croesawu’r cyfle i’ch croesawu ar ymweliadau o’r fath.”