Mae Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, yn gofyn am eich barn am ddatrysiadau posib i'r problemau traffig ar hyd Coridor Glannau Dyfrdwy.
Mae ymgynghoriad 12 wythnos Llywodraeth Cymru yn dechrau heddiw a bydd yn canolbwyntio ar ddau opsiwn ar gyfer coridor prysur yr A55/A494/A548.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Roedd yn glir pan gefais fy mhenodi i'r swydd hon y llynedd bod buddsoddi mewn seilwaith ledled Cymru yn flaenoriaeth fawr ac rwy'n falch i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect pwysig hwn.
"Mae mwy o draffig ar goridor yr A55/A494/A548 nag y dyluniwyd ar ei gyfer ac mae hyn yn arwain at dagfeydd rheolaidd. Nid yw'r coridor yn bodloni safonau modern ac mae rhai o'r cyffyrdd ymuno ac ymadael yn rhy fyr neu'n rhy agos at y ffordd. Mae gwelededd gwael hefyd yn broblem barhaus.
"Mae'r ddau gynnig hyn yn cynrychioli gwelliannau a buddsoddiad sylweddol, gyda chostau'n uwch na £200 miliwn. Dyna pam fod ymgynghoriad cynhwysfawr mor bwysig er mwyn sicrhau'r datrysiad gorau posibl ar gyfer y rhanbarth a'i gymunedau.
"Mae'r Opsiwn 'Glas' yn lledu'r llwybr A55/A494 ac yn cau, addasu a gwella'r cyffyrdd. Mae'r Opsiwn 'Coch' yn cynnwys cynyddu capasiti'r A548 presennol a chreu ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548.
"Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n bwysig yn lleol ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan a rhoi eu barn."
Mae'r ddau opsiwn ymgynghori'n cynnwys cyfleusterau teithio actif ac yn ystyried y dirwedd leol, gofynion ecolegol a ffactorau amgylcheddol ar bobl.
Fel rhan o'r ymgynghoriad bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yng Nghlwb Cymdeithasol Ewloe (21 a 22 Mawrth) a Choleg Cambria (23 a 24 Mawrth) rhwng 10am ac 8pm.
Mae manylion y cynigion, yr arddangosfeydd cyhoeddus a sut i ddweud eich dweud ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/.
Mae Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd wedi cyhoeddi, yn dilyn adolygiad ar yr A494, y bydd y system goleuadau traffig newydd yn cael ei gosod ger Alltami cyn gynted ag y bo modd.
Nes hynny, bydd system goleuadau traffig dros dro yn cael ei gosod i ddarparu mwy o amser 'golau gwyrdd' ar gyfer yr A494, fydd yn gwella dibynadwyedd a llif y traffig.