Heddiw, cyfarfu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, â'r rheini sydd â diddordeb mewn gwella’r ffordd rhwng Ynys Môn a Gwynedd i drafod cynlluniau ynghylch y ffordd orau o wneud hynny.
Cyn y cyfarfod, rhoddodd amlinelliad o'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn ac esboniodd pam fod Llywodraeth Cymru yn ffafrio'r opsiwn o godi trydedd bont dros Afon Menai.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith:
"Mae fy ymrwymiad i godi trydedd bont dros y Fenai, a’r budd amlwg i gymunedau lleol a'r economi yn sgil hynny, wedi bod yn glir o'r dechrau'n deg. Yn aml mae'r system bresennol o dan straen oherwydd y nifer aruthrol sy'n ei defnyddio. Mae'n hollbwysig ein bod yn gweithredu ar unwaith i edrych ar sut gallwn wella mynediad, yn enwedig gan fod prosiectau mawr fel Wylfa Newydd ar y gweill.
"Rydym wedi edrych yn fanwl ar yr opsiynau posibl i wella'r Bont Britannia bresennol, o ddarparu tair lôn gul â system draffig llanw a thrai ar y bont bresennol i symud y ffordd ymuno tua'r dwyrain i wella llif y traffig. Nid ydym wedi dewis yr opsiynau hyn oherwydd problemau diogelwch sylweddol a ddaeth i'r amlwg mewn asesiadau risg a phryderon a fynegwyd gan y gwasanaethau brys.
"Yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yw codi pont newydd ac rydym yn awr yn datblygu'r opsiwn hwnnw mewn ymgynghoriad â'r rheini sydd â diddordeb ynddo i weld yr hyn sy'n bosibl. Fel rhan o'r broses hon, rydym yn parhau i weithio gyda'r Grid Cenedlaethol i edrych ar y cyfleoedd ar gyfer creu ffordd a hefyd gosod ceblau - rhywbeth a allai ddarparu manteision ychwanegol i bawb."
Wrth edrych ar brosiectau trafnidiaeth eraill sydd ar waith ar hyn o bryd yn y Gogledd, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae'r A55 yn amlwg yn flaenoriaeth arall i'r Llywodraeth, gan fod cynlluniau sy'n werth miliynau o bunnoedd i wella cydnerthedd, lleihau tagfeydd, ymdrin â mannau cyfyng ac uwchraddio cyffyrdd eisoes ar waith, a'r ymgynghoriad ar brosiect Coridor Glannau Dyfrdwy sy'n werth £200 miliwn ar fin dechrau.
"Ynghyd â moderneiddio rheilffyrdd, ein masnachfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau gyntaf a'n cynlluniau ar gyfer Metro Gogledd Cymru, dyma gyfnod cyffrous i drafnidiaeth yn y Gogledd. Rwy'n awyddus i ddatblygu'r prosiectau hyn cyn gynted â phosib fel bod cymunedau ar draws y Gogledd yn gallu elwa ar y manteision ar unwaith."