Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, wedi cwrdd â’r wyth prentis sy’n helpu i sicrhau y bydd ffordd osgoi’r Drenewydd yn cael ei chwblhau, ar amser, erbyn 2019.
Dechreuodd y gwaith ar y ffordd osgoi gwerth £92 miliwn ym mis Chwefror a bydd yn cysylltu’r A489 a’r A483, gan liniaru’r problemau traffig a geir yng nghanol y Drenewydd a gwella’r modd i’w chyrraedd.
Mae’r contractwyr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, wedi creu’r prentisiaethau drwy’r Academi Sgiliau Project, a hynny fel rhan o’u ymrwymiad i’r gymuned leol. Mae wyth arall yn yr arfaeth.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Rwy’n falch iawn o weld y cynnydd sy’n mynd rhagddo yma ar y ffordd bwysig hon. Rwy’ hefyd yn falch o gael cyfle i gwrdd â’r bobl ifanc clodwiw hyn sy’n meithrin profiad a sgiliau drwy’r Academi Sgiliau Project ardderchog.
“Yn rhy aml, ystyrir mai ond tarmac a safleoedd adeiladu sy’n rhan o’r seilwaith. Yn aml, nid ystyrir pwysigrwydd y seilwaith ar y cymunedau a’r economïau lleol. Gyda’r prosiect hwn, mae hynny i’w weld, yn yr hirdymor a’r tymor byr, drwy’r prentisiaethau lleol a’r swyddi y mae wedi’u creu. Yn y tymor hir, bydd yn lliniaru’r tagfeydd yn y Drenewydd ac yn helpu’r dref i gyrraedd ei photensial o safbwynt yr economi.
“Mae’n hyfryd i weld y ffordd osgoi yn dechrau datblygu ac edrychaf ymlaen at ei gweld pan bydd wedi’i chwblhau. Bydd hyn yn fodd i hwyluso rhagor o dwf yn yr ardal”