£85,000 i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth Glannau Dyfrdwy wrth i gynlluniau ar gyfer Metro Gogledd Cymru fynd yn eu blaenau
Dywedodd Ken Skates y byddai’r cyllid hefyd yn helpu Sir y Fflint i wella ei chysylltiadau trafnidiaeth cyn prosiect uchelgeisiol y Metro yng Ngogledd Cymru, fydd yn golygu cysylltiadau trafnidiaeth ehangach, integredig ledled y gogledd.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cynllun Metro Gogledd Cymru yn galw am fuddsoddiad sylweddol, gyda manteision enfawr posibl i’r economi leol. Er mwyn sicrhau hyn, bydd y £30 miliwn a neilltuwyd yn ein cyllideb ddiweddar yn gweld ein cynlluniau ar gyfer Metro Gogledd Cymru yn dod yn gliriach.
“Yn y cyfamser, rwy’n falch iawn bod modd inni gefnogi’r awdurdodau lleol, megis Sir y Fflint, i fuddsoddi er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio bysiau, hwyluso teithio llesol a chysylltu cymunedau gyda swyddi – rhywbeth fydd yn allweddol i lwyddiant y Metro ehangach yng Ngogledd Cymru."
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd
“Dwi’n falch o dderbyn y cyllid ychwanegol i helpu i ddatblygu ein trafnidiaeth, i wella pob math o drafnidiaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd gwell cysylltiadau trafnidaieth yn sicrhau bod Glannau Dyfrdwy yn parhau i fod yn gyrchfan o ddewis i fusnesau i’r dyfodol.”