Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi ail-benodi Ewan Jones a Philip Jardine i fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru am 3 blynedd arall.
Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Comisiwn Dylunio Cymru yn hybu pwysigrwydd dylunio da ar draws sectorau, gan gydweithio gydag amrywiol gyrff eraill i helpu i hyrwyddo adeiladau gwell a mannau agored, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dwi’n falch o gadarnhau ail-benodiad Ewan a Philip i fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru am dair mlynedd arall. Does dim amheuaeth gennyf y bydd eu sgiliau a’u profiad yn parhau i fod yn amhrisiadwy wrth inni geisio gwella ein hamgylchedd adeiledig a gwneud Cymru yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Gayna Jones, Cadeirydd Bwrdd Comisiwn Dylunio Cymru:
"Dwi’n falch o ail-benodi Phil ac Ewan i’r Bwrdd. Mae’r ddau ohonyn nhw yn dod ag arbenigedd a phrofiad gwerthfawr i’r Bwrdd ac mae safon y bobl y mae’r Comisiwn Dylunio yn eu denu fel Comisiynwyr wedi creu argraff arnaf.”
Bydd y penodiadau am gyfnod o 3 mlynedd o’r 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2020.