Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies wedi cyhoeddi Setliad Cyllid Llywodraeth Leol 2019-20.
Bydd awdurdodau lleol Cymru yn derbyn £4.2 biliwn mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig y flwyddyn nesaf i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hynny'n cynnwys £2.5 miliwn o gyllid gwaelodol er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unrhyw awdurdod ddygymod â dros 1.0% o ostyngiad.
Gan gydnabod rôl bwysig awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol craidd a'r pwyslais ar atal problemau, mae'r setliad hwn yn cynnwys £20 miliwn arall i helpu i leddfu pwysau.
Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol yn deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy ddyfarniad cyflog yr athrawon, yn ogystal â chyllid ar gyfer ein cynigion am feini prawf cymhwysedd newydd i gael prydau ysgol am ddim, gan fod Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno Credyd Cynhwysol.
Ar ben hynny, rydym yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd awdurdodau lleol er mwyn helpu i atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r tywydd poeth dros yr haf eleni, yn ogystal â mynediad at £78m o’r gronfa trafnidiaeth leol.
Dywedodd Alun Davies,
"Yr wythnos ddiwethaf, gosodwyd cyd-destun y setliad llywodraeth leol eleni - yr ansicrwydd ynghylch y trefniadau ar gyfer ymadael â'r UE, Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU sydd ar ddod a chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Adolygiad o Wariant yn 2019, ynghyd â'r cyfyngiadau sy'n parhau ar wariant cyhoeddus. Mae'r awdurdodau lleol yn wynebu'r un ffactorau wrth osod eu cyllidebau eu hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
“Ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol llynedd, roedd awdurdodau'n wynebu'r posibilrwydd o 1.0% o ostyngiad mewn cyllid craidd ar gyfer 2019-20, sy'n cyfateb i £43 miliwn o ostyngiad o ran arian.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed, ar draws y Llywodraeth, i gynnig y setliad gorau posib i lywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Rydyn ni wedi gwneud dyraniadau pellach i'r setliad llywodraeth leol er mwyn lliniaru'r rhan fwyaf o'r gostyngiad yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl. O ganlyniad, mae'r toriad o £43m wedi'i ostwng i lai na £13m, gan gynnwys cyllido gwaelodol, sy'n cyfateb i ostyngiad o 0.3% ar sail tebyg at ei debyg, o gymharu â'r flwyddyn bresennol.
“Roedd y Gyllideb ddrafft yr wythnos ddiwethaf hefyd yn cynnwys cyfres o grantiau ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys £30m ar gyfer gofal cymdeithasol a £15m ar gyfer addysg, ac yn adfer ffrydiau cyllido eraill lle’r oedd toriadau wedi’u cyhoeddi yn flaenorol.
“Er ein bod wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad llywodraeth leol gorau posib, rydyn ni'n cydnabod bod y setliad hwn yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd, pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, dyfarniadau cyflog a phwysau chwyddiant o fath arall, ymysg pethau eraill. Fel y dywedwyd yn glir yn ein trafodaethau gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, rydyn ni'n cydnabod y pwysau sy'n wynebu pob un, ac fe fyddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf y cyni.
"Byddaf yn cadw llygad fanwl ar Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Hydref, ac os bydd unrhyw adnoddau ychwanegol ar gael, byddwn yn sicrhau mai rhagor o gyllid i Lywodraeth Leol fydd prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru."