Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau newydd i gryfhau llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae ymgynghoriad Papur Gwyrdd yn amlinellu cynigion i ystyried y posibilrwydd o greu cynghorau cryfach sy'n fwy eu maint. Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi opsiynau posibl i'w trafod ynghylch y ffordd y gallwn gyflawni hyn – sy'n cynnwys uno'n wirfoddol, defnyddio dull fesul cam lle byddai rhai yn uno gyntaf cyn i eraill ddilyn, a rhaglen uno gynhwysfawr.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies wedi treulio'r misoedd diwethaf yn ymweld ag arweinwyr awdurdodau Cymru i ddysgu rhagor am yr heriau digynsail sy'n eu hwynebu a sut y mae'r heriau hyn yn effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol.
Nod y cynigion yw sicrhau bod modd i gynghorau barhau i ddarparu gwasanaethau angenrheidiol rhagorol drwy gefnogi, cydnabod a gwobrwyo eu rôl hanfodol yn ein democratiaeth.
Mae cydweithio'n rhanbarthol yn parhau'n gwbl hanfodol. Mae hyn yn ganolog i'n model o gyflenwi mewn addysg a gwasanaethau cymdeithasol ac mae llywodraeth leol wedi mynd ati'n rhagweithiol i arwain ar hyn drwy'r Bargeinion Dinesig a Thwf. Rhaid i hyn barhau ond rhaid gwneud mwy hefyd.
Dywedodd Alun Davies,
"Rwy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r rôl hanfodol sydd gan lywodraeth leol yng nghymunedau Cymru.
“Mae Cymru angen awdurdodau lleol cryf ac effeithiol, sydd wedi’u grymuso ac yn gallu gwrthsefyll cyni cyllidol parhaus, ac mae angen datblygu strwythurau lleol democrataidd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dydw i ddim yn credu y gall ein hawdurdodau lleol gyflawni'r rôl hon yn llawn ar eu ffurf bresennol, ac rwy'n gwybod bod eraill o'r un farn.
"Mae cynghorau wedi nodi'n glir bod gwasanaethau yn dirywio hyd nes eu bod bron â methu. Mae'n cael ei gydnabod yn gyffredinol nad oes modd i'r sefyllfa bresennol barhau, ac na fyddai arian yn datrys y broblem, hyd yn oed os byddai ar gael.
“Rwy'n gwybod bod llywodraeth leol wedi ymdrechu'n galed i newid, addasu a buddsoddi ar gyfer y dyfodol, ond rwy' hefyd yn deall nad oes llawer o opsiynau i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau lleol yn y dyfodol yn wyneb toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Os na fyddwn yn ymateb mewn ffordd radical i'r heriau hyn rydyn ni i gyd yn eu cydnabod, bydd llywodraeth leol yn dirywio.
“Rhaid i'r cam nesaf weddnewid y drefn. Rwy'n credu bod llawer mewn llywodraeth leol yn deall hyn, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i sicrhau newid. Rydw i eisoes wedi cyhoeddi cynigion i annog mwy i gymryd rhan a gwella'r broses ddemocrataidd i bob un yng Nghymru. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar ailgryfhau tirwedd llywodraeth leol ymhellach."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwysig, fel rhan o'r drafodaeth hon, i gytuno ar dempled patrwm ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol, a byddai'n rhaid i unrhyw gynlluniau i uno gyd-fynd â'r patrwm hwn. Byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cyd-fynd â ffiniau gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae'r Papur Gwyrdd yn amlinellu dull sy'n adlewyrchu syniadau'r Comisiwn Williams ac adborth o ymgyngoriadau blaenorol i ysgogi trafodaeth er mwyn dod i benderfyniad am y dull i'w weithredu.
Aeth Alun Davies ymlaen i ddweud,
"Rwy'n cydnabod y byddwn yn wynebu nifer o heriau wrth greu awdurdodau cryfach sy'n fwy eu maint, ond nid yw'n amhosibl mynd i'r afael â'r heriau hyn. Os byddwn yn bwrw ymlaen ag un o'r opsiynau i greu awdurdodau sy'n fwy eu maint yn y dyfodol, byddwn yn darparu cymorth ymarferol cynnar i awdurdodau lleol.”
Byddai'r cynigion yn y Papur Gwyrdd yn cael eu cyflawni ynghyd â chynnig mwy o bwerau a rhyddid i lywodraeth leol, cynigion i adfywio democratiaeth leol, cynyddu tryloywder, darparu trefniadau craffu mwy effeithiol a chymorth gwell i aelodau etholedig. Byddai hyn yn rhan o ddull ehangach sy'n cynnwys gweithio'n gryfach yn rhanbarthol mewn meysydd allweddol.