Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi y bydd awdurdodau lleol yn cael £4.2 biliwn i wario ar wasanaethau allweddol yn 2018-19.
Mae'r setliad llywodraeth leol dros dro hefyd yn cynnwys cyllid gwaelodol o £1.8 miliwn i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn gorfod ymdopi â gostyngiad o fwy na 1% yn y cyllid y byddant yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn golygu, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd gostyngiad o 0.5% yn y cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2018-19 o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol.
Er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, mae setliad 2018-19 yn rhoi £62 miliwn arall i ysgolion yn 2018-19 a £42 miliwn arall i wasanaethau cymdeithasol yn 2018-19.
Bydd hyn yn sicrhau bod cyfran dybiedig o wariant cyllid craidd Llywodraeth Cymru ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol yn aros ar yr un lefel ag yr oedd yn 2017-18.
Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2018-19 hefyd yn parhau ar yr un lefel, sef £143 miliwn.
Mae meysydd allweddol eraill o setliad 2018-19 yn cynnwys £6 miliwn arall ar gyfer atal digartrefedd, sy'n ychwanegol at y £6 miliwn a gafodd ei ddarparu yn 2017-18.
Yn ogystal â'r setliad, bydd £600,000 yn cael ei ddarparu i gefnogi llywodraeth leol i roi terfyn ar godi tâl am gladdedigaethau plant. Mae hyn yn adeiladu ar y camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd eisoes gan lawer o gynghorau yng Nghymru, ac mae'n sicrhau bod dull tecach a mwy cyson ar waith ym mhob cwr o'r wlad.
Mae'r setliad dangosol ar gyfer 2019-20 yn dangos gostyngiad o 1.5%, sy’n adlewyrchu gostyngiadau pellach yn y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ond bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu diogelu.
Yn 2019-20, bydd y cyllid sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd cynnydd o £46 miliwn yn ei chyfran dybiedig o wariant cyllid craidd ar ysgolion. Bydd cyllid ar gyfer ysgolion yn dal i gael blaenoriaeth hyd yn oed mewn setliad cyffredinol tynnach.
Bydd y gyfran dybiedig o wariant cyllid craidd ar wasanaethau cymdeithasol yn cynyddu ymhellach i £73 miliwn yn 2019-10. Bydd hyn yn adlewyrchu, hyd yn oed yn wyneb cyfyngiadau cyllidebol llymach eto, fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y sector gofal cymdeithasol yn un sy'n strategol bwysig yn genedlaethol.
Mae gwaith yn parhau hefyd ar ddod â grantiau i mewn i Grant Cymorth Refeniw llywodraeth leol a chyfuno rhai grantiau llai. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn lleihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â chyllid grant, o safbwynt yr awdurdodau a Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd heddiw ddiweddariad ar ddiwygio cyllid llywodraeth leol yn ehangach er mwyn bodloni anghenion y dyfodol.
Wrth gyhoeddi'r setliad dros dro, dywedodd Mark Drakeford:
“Y llynedd, dywedais i wrth awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer yr amseroedd a'r penderfyniadau anoddach a oedd i ddod wrth i Gymru barhau i ddioddef ergyd drom yn sgil y polisi diffygiol o gyni cyllidol.
“Fy mlaenoriaeth, gan ddefnyddio fformiwla rydyn ni wedi cytuno arni gyda llywodraeth leol, yw ceisio diogelu cynghorau o'r toriadau gwaethaf sy'n cael eu pasio ymlaen i ni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n meddwl bod hynny wedi'i adlewyrchu yn y setliad ar gyfer 2018-19.
“Rydyn ni wedi cymryd camau i ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol, fel ysgolion a gofal cymdeithasol, gan gydnabod ar yr un pryd y pwysau sydd i'w gweld mewn rhai meysydd, fel atal digartrefedd.
"Os bydd Canghellor y Trysorlys yn dilyn ein cyngor ac yn rhoi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer gwneud toriadau yng Nghyllideb yr Hydref, yna fy mlaenoriaeth gyntaf innau fydd edrych eto ar y toriadau rydyn ni wedi cael ein gorfodi i’w gwneud yn 2019-20.
“Bydd setliad y flwyddyn nesaf yn anodd – rydyn ni wedi gwneud pob dim y gallwn ni i sicrhau y bydd modd ymdopi oddi tano. Rhaid i gynghorau ddefnyddio'r amser hwn nawr i gynllunio, er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei roi i'r gwasanaethau a'r bobl sydd fwyaf ei angen."