Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i 300,000 o gartrefi incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru wedi cael gostyngiad yn eu treth gyngor yn 2016-17.
Fis Medi diwethaf, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i amddiffyn cartrefi incwm isel ac agored i niwed drwy gynnal hawliadau llawn i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor hyd at ddiwedd 2017-18 o leiaf.
Mae'r penderfyniad hwn wedi sicrhau y bydd bron i 300,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag gorfod talu unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor. O'r cartrefi hyn, nid yw 220,000 ohonynt yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad newydd, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri ein cyllid 10%, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gostyngiadau mewn treth gyngor i gartrefi incwm isel ac agored i niwed. Daw'r gefnogaeth hon drwy'r £244m a ddarparwyd gennym yn ein setliad llywodraeth leol.
“Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad amlwg â'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae awdurdodau lleol wedi cael eu gadael ar eu pen eu hunain i geisio paratoi cynlluniau a rheoli'r diffyg yn eu cyllid sy'n deillio ohonynt. Y canlyniad yw bod dros ddwy filiwn o gartrefi incwm isel wedi gorfod talu mwy o dreth gyngor.
“Mae teuluoedd incwm isel yn Lloegr bellach yn talu £169 yn rhagor y flwyddyn ar gyfartaledd nag y bydden nhw wedi ei dalu petai'r trefniadau budd-dal treth gyngor wedi parhau.
“Rydyn ni'n sicrhau y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn dal i gael eu gwarchod rhag y math o gostau sy'n wynebu cynghorau Lloegr, ac y bydd y cartrefi hynny lle mae'r angen mwyaf yn parhau i gael y cymorth priodol.”