Mae cyfle i berchnogion busnesau bach a’r rhai sy’n talu ardrethi ddweud eu dweud am gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, sef Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach
Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw i weld a allai’r cynllun roi mwy o gymorth i’r busnesau bach hynny sydd fwyaf o’i angen.
Gallai hyn olygu ailgyfeirio’r cymorth oddi wrth rai busnesau, er enghraifft cadwyni mawr sydd â nifer o safleoedd bychain trwy Gymru, er mwyn helpu busnesau sy’n fwy tebygol o elwa.
Byddai’r arian yn cael ei ailfuddsoddi wedyn er mwyn gwneud y cynllun yn fwy hael i fusnesau bach megis siopau lleol, caffis a bwytai, sydd efallai’n gweithredu mewn un neu ddau o safleoedd yn unig.
Wrth ystyried sut y gellid gwneud y cynllun yn fwy hael, mae’r ymgynghoriad yn trafod hefyd a ellid cynyddu’r gwahanol drothwyon ar gyfer rhyddhad, faint fyddai hynny’n ei gostio ac a fyddai mwy o fusnesau’n elwa yn sgil hynny.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai rhai mathau ychwanegol o fusnesau gael eu heithrio o’r cynllun. Mae’r eithriadau ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo annomestig fel meysydd parcio a mastiau ffôn, yn ogystal ag eiddo cynghorau, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a’r Goron.
Yn ogystal, mae’r ddogfen ymgynghori yn gofyn sut y gallai’r cynllun parhaol gael ei ddefnyddio i gynorthwyo diwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant, petai tystiolaeth gadarn o blaid gwneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn hefyd i’r rhai sy’n talu ardrethi a oes ganddynt unrhyw safbwyntiau eraill ynghylch sut y gellid parhau i ddatblygu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi yn y dyfodol i wneud yn siŵr ei fod yn ymateb i anghenion busnesau. Gofynnir cwestiynau megis a ddylai’r cymorth fod yn barhaol neu a ddylid rhoi cyfyngiad amser arno. Holir hefyd a ddylid canolbwyntio ar fusnesau sy’n gydnaws â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru - boed y rheini’n rhai cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.
Wrth lansio’r ymgynghoriad heddiw, dywedodd Mark Drakeford:
“Rydym yn awyddus i roi cymaint o sicrwydd a diogelwch ag sy’n bosibl i fusnesau bach. Un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn yw trwy gadarnhau y byddwn yn cyflwyno cynllun Rhyddhad Ardrethi newydd yn 2018 ac, wrth wneud hynny, yn ymestyn toriad trethi a fydd yn help i hybu twf economaidd Cymru yn y tymor hir.
“Rydyn ni’n cychwyn proses ymgynghori eang heddiw gyda’r rhai sy’n talu trethi, cynrychiolwyr busnesau, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Mae eu barn nhw yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun ac rydyn ni’n awyddus i gydweithio’n agos â nhw mewn modd adeiladol sy’n rhoi sylw i’w barn. Rwy’n annog pawb i ddweud eu dweud cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddydd Gwener 13 Hydref.”
Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd:
“Ry’n ni’n croesawu’r ymgynghoriad hwn yn fawr. Byddai cael rhyddhad ar ardrethi busnes yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r sector gofal plant, sy’n dioddef o ddiffyg cyllid a chynnydd mewn costau. Mae meithrinfeydd yn bwysig iawn i’r economi gan eu bod yn cyflogi miloedd o bobl ac yn galluogi rhieni i weithio. Mae ardrethi busnes wedi bod yn cynyddu ar adeg pan nad yw meithrinfeydd yn gallu fforddio talu mwy. Mae hynny’n effeithio ar y ffioedd sy’n cael eu codi ar rieni, felly byddai rhyddhad yn hwb i fantolenni ariannol y meithrinfeydd ac yn cadw’r costau’n fforddiadwy i deuluoedd.”