Mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, wedi llongyfarch arweinydd newydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Debbie Wilcox, ar ei phenodiad.
Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw, dywedodd Mark Drakeford:
“Hoffwn ddymuno’n dda iawn i’r Cynghorydd Wilcox. Rwy’n siŵr y bydd hi’n arwain y Gymdeithas Llywodraeth Leol gyda phroffesiynoldeb ac arbenigedd yn ystod y blynyddoedd nesaf.
“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i’r Gymdeithas, wrth iddi ethol ei harweinydd benywaidd cyntaf ers i’r corff gael ei greu yn 1996.
“Er bod gennym beth ffordd i fynd eto cyn y bydd ein cynghorau’n adlewyrchu’n llawn y bobl y maent yn eu cynrychioli, mae’n galonogol gweld menywod yn arwain cynghorau Ynys Môn, Ceredigion, Powys a Chasnewydd.
“Mae gennym bellach genhedlaeth newydd o gynghorwyr yng Nghymru - a bydd y rhain i gyd yn cyflwyno syniadau newydd, ffyrdd gwahanol o wneud pethau, a phersbectif gwahanol.
“Rwy’n gobeithio gallu parhau â’r berthynas waith adeiladol sydd wedi bod rhyngof a’r Gymdeithas ers imi gychwyn yn y swydd hon y llynedd.
“Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y parodrwydd i drafod meysydd megis diwygio llywodraeth leol, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud cynnydd cadarnhaol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio llywodraeth leol ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Cynghorydd Wilcox ac arweinwyr y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar y gyfres gredadwy o gynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno.”