Mae'r Mark Drakeford wedi llongyfarch y cynghorwyr sydd newydd eu hethol, ac yn galw arnynt i barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynlluniau i ddiwygio llywodraeth leol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rwy’n llongyfarch yr holl gynghorwyr, y rhai a gafodd eu hethol o'r newydd a'r rhai a gafodd eu hailethol yr wythnos ddiwethaf.
“Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob person yng Nghymru. Cynghorau sy'n darparu’r gwasanaethau sy'n addysgu ein plant, edrych ar ôl yr henoed, cael gwared ar ein gwastraff a goleuo ein strydoedd.
"Mae'r cynghorwyr sydd newydd gael eu hethol wedi ysgwyddo swyddogaeth werthfawr iawn yn ein cymdeithas ac yn deall y cyfrifoldebau niferus sy'n gysylltiedig â swydd gyhoeddus.
"Bydd yr wythnosau nesaf yn rhai prysur iawn wrth ffurfio gweinyddiaethau newydd ac ethol arweinwyr cyngor. Mae cynghorwyr yn wynebu nifer o heriau, ond rhaid i ni beidio anghofio'r mater ehangach o ddiwygio llywodraeth leol.
"Ar ôl cyhoeddi cynigion newydd ar gyfer diwygio llywodraeth leol llynedd, cefais fy nghalonogi gan barodrwydd yr arweinwyr i drafod, ac rydw i wedi cael sgyrsiau adeiladol a chadarnhaol iawn.
"Rydw i am barhau gyda'r ddeialog hon a gweithio gydag arweinwyr y cyngor, yn yr un ysbryd o barch o'r ddwy ochr, wrth i ni gymryd y camau nesaf ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng Nghymru."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'n anochel y byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd, ond rydw i am bwysleisio nad yw hon yn broses ddiddiwedd - fe fyddaf yn gwrando ar wahanol safbwyntiau, ond byddwn yn symud ymlaen gyda'r cynllun gweithio rhanbarthol gorfodol.
“Mae pobl Cymru wedi'n clywed ni'n siarad am ddiwygio llywodraeth leol ers blynyddoedd, ac mae'n bryd dod o hyd i ateb hirdymor.
"Rydyn ni wedi cael ymatebion ystyriol a deallus i'r ymgynghoriad Papur Gwyn, ac fe fyddaf yn nodi'n camau nesaf cyn hir.
"Byddaf yn ysgrifennu at arweinwyr cynghorau dros yr wythnosau nesaf, ac rwy'n awyddus iawn i'w cyfarfod dros y misoedd nesaf wrth i ni drafod sut i symud ymlaen ac adeiladu perthynas waith gadarn ar gyfer y blynyddoedd i ddod."