Heddiw, Cyllid Mark Drakeford fanylion cynllun rhyddhad wedi'i dargedu gwerth £10m i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer busnesau’r stryd fawr ledled Cymru o fis Ebrill ymlaen.
Bydd y cynllun yn cefnogi bron 15,000 o siopau, bwytai, tafarnau a chaffis, gan gynnwys y rhai sydd wedi gweld cynnydd yn eu hardrethi o ganlyniad i’r ailbrisiad gan Asiantaeth annibynnol y Swyddfa Brisio, a ddaw i rym ar 1 Ebrill.
Bydd cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr hefyd yn darparu cymorth i fanwerthwyr eraill – y mae rhai ohonynt wedi gweld gostyngiad yn eu hardrethi o ganlyniad i ailbrisio – sy'n cael pethau’n anodd yn wyneb amodau economaidd a chystadleuaeth gan ddarparwyr ar-lein ac ar gyrion trefi.
Bydd manwerthwyr cymwys yn cael gostyngiad o hyd at £1,500 ar eu bil ardrethi annomestig os oes ganddynt werth ardrethol o £50,000 neu lai yn y flwyddyn ariannol 2017 18.
Er mwyn manteisio i'r eithaf ar faint o gymorth y gellir ei ddarparu ac er mwyn sicrhau y caiff ei dargedu at yr ardaloedd a’r busnesau sydd â’r angen mwyaf, bydd dwy haen o ryddhad ar gael.
Bydd yr haen gyntaf o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr y stryd fawr sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 sydd eisoes yn cael naill ai rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol. Byddant yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o £500, neu os yw eu Bil yn llai na £500, bydd yn gostwng i ddim.
Bydd yr ail haen o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr cymwys y stryd fawr sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 sy'n gweld cynnydd yn eu hardrethi o 1 Ebrill. Bydd y talwyr ardrethi hyn yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o £1,500.
Byddant yn cael lefel uwch o gymorth i adlewyrchu'r ffaith nad ydynt yn cael cymorth arall, megis SBRR, ac y gallent wynebu cynnydd mawr yn eu hardrethi yn sgil yr ailbrisio.
Mae rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn unigryw i Gymru ac fe fydd yn cynnig cymorth hollbwysig i fusnesau bach a chanolig ar hyn o bryd – amcangyfrifir y bydd hyn o fudd i bron 15,000 o fusnesau.
Darperir y cynllun rhyddhad ardrethi wedi'i dargedu drwy gyfrwng grant arbennig i bob awdurdod lleol.
Ac yntau’n cyhoeddi’r manylion heddiw, dywedodd yr Athro Drakeford:
"Mae rhai manwerthwyr ledled Cymru yn pryderu am y cynnydd yn eu hardrethi o ganlyniad i’r ailbrisiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
"Rydym felly’n darparu swm pellach o £10 miliwn i helpu busnesau yn y cymunedau hynny y cafwyd effaith andwyol arnynt.
"Mae’r cynllun newydd hwn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10m, a fydd ar gael hefyd o 1 Ebrill a’r toriad o £100m mewn trethi ar gyfer busnesau bach yng Nghymru a ddarperir gan ryddhad ardrethi busnes bach. Bydd yn darparu cymorth hollbwysig i’r rhai sy’n talu ardrethi ar strydoedd mawr ledled Cymru ac yn cynnig cymorth ychwanegol i’r busnesau hyn.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar gyfer busnesau bach newydd ar gyfer 2018. Rydym yn gwrando ar yr adborth yr ydym wedi’i gael er mwyn inni wneud y cynllun mor deg, rhesymol a thryloyw â phosibl."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos â’r awdurdodau lleol i ddatblygu’r cynllun a pharatoi ar gyfer ei roi ar waith.
Gall manwerthwyr ddarganfod a ydynt yn gymwys ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn 2017-18 drwy gysylltu â'u hawdurdod lleol. Darperir canllawiau ategol i’r awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o weinyddu’r rhyddhad yn effeithiol.
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach:
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hymrwymiad i leddfu’r pwysau ar fusnesau’r stryd fawr y mae cyflwyno lefelau newydd o ardrethi busnes wedi effeithio arnynt. Rydym yn croesawu hefyd ymgysylltiad y Llywodraeth â Ffederasiwn y Busnesau Bach ar y mater hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Hoffem bellach annog yr awdurdodau lleol i fynd ati’n ddi-oed i ymgysylltu â busnesau er mwyn sicrhau bod pob un sydd â hawl i gael y rhyddhad hwn yn ei gael mor gyflym ac mor syml â phosibl.
“Bydd hyn yn mynd rywfaint o’r ffordd i ddarparu hoe i lawer o fusnesau sydd wedi bod yn pryderu am effaith biliau ardrethi newydd ar eu busnes.”