Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol wedi ymuno â chynghorwyr a darpar gynghorwyr i ddathlu llwyddiant Rhaglen Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth.
Prif nod y rhaglen yw sicrhau bod amrywiaeth ehangach o unigolion yn sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol.
Ar hyn o bryd dim ond 26% o gynrychiolwyr etholedig cynghorau Cymru sy’n fenywod a dim ond 2% o gynrychiolwyr etholedig sy’n nodi eu bod yn BME, LGBT ac anabl.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae’r rhaglen wedi creu cynllun mentora i bobl sy’n aelodau o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a rhaglen gyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae cynghorwyr llywodraeth leol yn ei wneud.
Ar hyn o bryd mae gan y rhaglen fentora fwy na 60 o gynghorwyr ac mae mwy na 50 o bobl wedi cofrestru i gael eu mentora. Mae o leiaf 20 o’r cyfranogwyr hyn yn bwriadu ymgeisio am amrywiaeth o swyddi gwleidyddol mewn etholiadau i gynghorau cymuned neu sir ac etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 ac wedi hynny.
Ymgeisiodd Ruth Williams, un o'r cyfranogwr, dros y Blaid Cydraddoldeb Menywod yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin.
Dywedodd Ruth
"Fe benderfynais gymryd rhan yn y Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth oherwydd bod diffyg menywod a phobl LBT+ ymhlith arweinwyr.
“Ces i fentor ardderchog sy wedi dysgu llawer i fi am faterion lleol a beth sy’n bwysig i bobl Caerdydd. Daeth hyn ar yr amser delfrydol imi ac fe roddodd yr hyder imi ymgeisio am sedd yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016.
“Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod amrywiaeth mewn democratiaeth yn fater pwysig sy'n haeddu sylw difrifol a dw i'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gynghorwyr.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi cael ymateb mor gadarnhaol i’n Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Mae’n hollbwysig bod ein cynghorwyr wir yn gynrychioli’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen am y llwyddiant rydym wedi ei weld dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n bwysig ein bod ni'n cadw’r ffocws hwn ar ddiffyg amrywiaeth yn y byd gwleidyddol, yn ei holl agweddau gwahanol.
“Byddwn ni'n parhau i gymryd camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn, ac yn defnyddio pob cyfle i annog grwpiau lleiafrifol a menywod i achub ar y cyfle i gymryd rhan yn y byd gwleidyddol.