Heddiw mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi y bydd cynllun newydd yn cael ei gyflwyno i gefnogi busnesau bach sy’n cael eu heffeithio gan y broses o ailbrisio eiddo busnes.
Bydd y cynllun £10m yn dod i rym o fis Ebrill 2017 ac mae’n ychwanegol i’r toriad o £100m yn nhrethi busnesau bach Cymru.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cynnal y broses ailbrisio. Mae’n ailasesu pob gwerth ardrethol yng Nghymru a Lloegr ar sail y rhent a fyddai’n cael ei godi amdanynt ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol. Dyma’r ailbrisiad cyntaf o’i fath yng Nghymru ers 2010.
O heddiw ymlaen, gall busnesau ddarganfod eu gwerth ardrethol ar gyfer 2017 trwy edrych ar wefan yr Asiantaeth.
O ganlyniad, bydd rhai busnesau bach y mae eu gwerth ardrethol wedi cynyddu o ganlyniad i’r ailbrisio yn cael llai o gymorth gan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru.
Er mwyn lliniaru effaith yr ailbrisio ar y busnesau bach hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn camu i’r adwy ac yn rhoi cymorth ychwanegol iddynt i’w helpu i dalu’r ardrethi.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
Dweud eich dweud ar yr ymgynghoriad.“Bythefnos yn ôl, fe gyhoeddais y byddai ein cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn para am flwyddyn arall ac y byddem yn cyflwyno cynllun newydd parhaol yn 2018.
“Er nad ni sy’n gyfrifol am y broses ailbrisio, rydym yn gwybod y gallai effeithio ar y cymorth a gaiff rhai busnesau bach gan ein cynllun rhyddhad ardrethi - a dyna pam rydym am gynnig y cymorth ychwanegol hwn.
“Mae’r cynllun rhyddhad trosiannol hwn yn golygu y bydd 7,000 yn rhagor o fusnesau bach yn cael cymorth i dalu eu hardrethi.
“Bydd y cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na thrwy gyfyngu ar ostyngiadau’r rhai y bydd eu gwerth ardrethol yn lleihau yn sgil yr ailbrisio.
“Trwy gyflwyno’r cynllun hwn, byd mwy na thri chwarter y rhai sy’n talu ardrethi yng Nghymru yn cael rhyw fath o gymorth y flwyddyn nesaf, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o fwy na £200m o gymorth.”