Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith heddiw yn siarad am ei gynlluniau i wella hygyrchedd ac atebolrwydd y gyfraith yng Nghymru.
Mae sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch yn hanfodol er mwyn caniatáu i ddinasyddion ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau dan y gyfraith – rhywbeth sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth i doriadau gael eu gwneud dro ar ôl tro i gymorth cyfreithiol a gwasanaethau eraill sy'n rhoi cyngor i'r rheini sydd angen cymorth neu gynrychiolaeth.
Wrth annerch cynulleidfa o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol ei gynlluniau i wella hygyrchedd drwy gyfres o fentrau. Y gyntaf ohonynt yw Bil Deddfwriaeth (Cymru), a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Bydd y Bil yn gosod Cymru ar drywydd newydd i ddatblygu codau cyfraith clir, hygyrch - y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y DU.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y cynrychiolwyr y bydd Tacsonomeg o Godau ddrafft yn cyd-fynd â’r Bil, er mwyn ceisio trefnu cyfraith Cymru yn ôl codau cynhwysfawr fesul pynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Gan symud ymlaen o'r Bil, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol ragor o wybodaeth am fentrau eraill sy'n mynd rhagddynt i wella hygyrchedd. Dywedodd:
"Rydyn ni’n gweithio gyda'r Archifau Gwladol, sy’n gyfrifol am gyhoeddi cyfreithiau Cymru, i ddatblygu system fwy clir a hygyrch o gategoreiddio cyfraith cyn ei chydgrynhoi yn y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu'r ddeddfwriaeth hon yn unol â'r cynnwys yn hytrach na phryd y cafodd ei gwneud - sy'n gam sylweddol ymlaen."
Yn ystod ei anerchiad, trafododd y Cwnsler Cyffredinol ei fwriad i ail-lansio gwefan Cyfraith Cymru. Dywedodd:
“Mae'r wefan hon eisoes yn ddefnyddiol, ond mae'r gwaith arni yn parhau a'r cynnwys yn gyfyngedig. Rwy'n cydnabod nad yw cynnwys y wefan ar hyn o bryd yn bodloni disgwyliadau pobl, gan gynnwys fy nisgwyliadau i fy hun. Pe bai pob un ohonom ni fel ymarferwyr, deddfwyr, academyddion, sylwebwyr ac eraill yng nghymuned gyfreithiol Cymru yn rhannu rhan fach o'n profiadau a'n harbenigedd drwy gynhyrchu cynnwys ar gyfer Cyfraith Cymru, byddai hynny'n cael effaith sylweddol. Gyda'n gilydd, gallwn drawsnewid yr ased hwn o fod yn rhywbeth nad yw pobl yn gwybod amdano nac yn ei ddefnyddio i fod yn wirioneddol lesol i bobl Cymru."
Wrth gloi ei araith, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Rydyn ni wedi cychwyn ar broses o greu seilwaith cyfreithiol neilltuol i Gymru. Dyma broses na fydd yn dod i ben. Ni fydd y broses o wneud cyfreithiau i Gymru yn dod i ben, ac ni fydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a Lloegr yn dod i ben. Mae creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli'r system gyfiawnder yn anochel."