Bydd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AC yn Nulyn er mwyn dysgu mwy am ymdrechion Llywodraeth Iwerddon i wneud deddfwriaeth Iwerddon yn fwy hygyrch.
Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymweld â'r Comisiwn Diwygio'r Gyfraith ac yn cyfarfod Twrnai Cyffredinol Iwerddon, Séamus Woulfe, Llysgennad Prydain yn Iwerddon, Robin Barnett a'r Prif Gwnsler Seneddol newydd, June Reardon.
Cyfuno, cyfundrefnu a symleiddio deddfwriaeth fydd ar yr agenda pan fydd Jeremy Miles yn cyfarfod Mr Ustus John Quirke SC, Llywydd Comisiwn Diwygio'r Gyfraith. Bu'r Comisiwn yn canolbwyntio ar hyn ers 2014, ac fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn trafod gwersi a ddysgwyd er mwyn eu defnyddio gyda'r Bil Deddfwriaeth Cymru drafft, sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac mewn ymdrechion ehangach i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
"Mae cymhlethdod y gyfraith sy'n gymwys i Gymru yn broblem fawr, ac mae angen cymryd camau i'w symleiddio a'i gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Rhaid i ddinasyddion ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau dan y gyfraith; gwybod beth yw ystyr y gyfraith a phwy sy'n gyfrifol am beth. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
"Mae'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, felly mae'r ymweliad yn cynnig cyfle defnyddiol i ddysgu o'r gwaith y mae'r Comisiwn Diwygio'r Gyfraith eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn."
Yn ddiweddarach, bydd Brexit ar yr agenda mewn trafodaethau gyda'r Twrnai Cyffredinol, Séamus Woulfe SC, gan y bydd ymadael â'r UE yn arwain at broblemau cyfreithiol cymhleth.
Bydd Brexit dan sylw fory (1 Mehefin) hefyd pan fydd swyddogion y gyfraith yn cyfarfod ym Melfast i drafod goblygiadau cyfreithiol ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymuno ag Arglwydd Adfocad yr Alban, James Wolffe QC, Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin QC a swyddogion y gyfraith dros Jersey a Gibraltar.