O heddiw ymlaen, mae pobl yng Nghymru yn cael cadw hyd at £40,000 o’u harian cyn iddynt orfod talu cost lawn eu gofal preswyl.
Mae terfyn cyfalaf yn pennu a yw unigolyn yn talu cost lawn ei ofal preswyl ai peidio, neu a yw’n cael cymorth ariannol tuag at y gost oddi wrth ei awdurdod lleol.
Yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, mae ymrwymiad i godi’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i godi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad presennol.
Y terfyn cyfalaf yng Nghymru yw’r uchaf yn y DU. Yn Lloegr, mae pobl sydd â chyfalaf a chynilion dros £23,250 yn gorfod talu cost lawn eu gofal preswyl eu hunain.
Mae’r cynnydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, gan ddechrau ym mis Ebrill 2017 pan gafodd y terfyn ei godi i £30,000. Heddiw mae’r terfyn cyfalaf wedi cael ei godi eto, y tro hwn o £30,000 i £40,000.
Mae hyd at 4,000 o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yn talu’r gost lawn am eu gofal. Mae oddeutu 450 o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl eisoes wedi elwa ar derfyn uwch y llynedd, a’r disgwyl yw y byddwn yn gweld y nifer hwnnw yn cynyddu’n gyson.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
“Dyma’r ail gam tuag at gyflawni un o’n chwe phrif ymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen' i fwy na dyblu’r cyfalaf y caiff person mewn gofal preswyl ei gadw heb orfod ei ddefnyddio i dalu am y gofal hwnnw.
“O heddiw ymlaen, bydd y terfyn cyfalaf yn codi o £30,000 i £40,000, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael cadw £10,000 ychwanegol o’r cynilion y maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill a chyfalaf arall i’w defnyddio yn ôl eu dymuniad. Erbyn diwedd y Cynulliad presennol, bydd y terfyn yn codi i £50,000.
“Dyma enghraifft gadarn arall o’r Llywodraeth hon yn cyflawni ei hymrwymiadau i bobl Cymru.”