Mae'r Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i feddygon teulu yng Nghymru.
Bydd y cynllun, sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2019, yn cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol sydd wedi'u contractio ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer meddygol yn y GIG.
Daw hyn yn dilyn pryderon ynghylch cynnydd mewn costau indemniad, a allai o bosib droi meddygon teulu oddi wrth y proffesiwn, gan effeithio ar wasanaethau.
Bydd y cynllun mor agos â phosib at y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth a gyhoeddwyd yn Lloegr, er mwyn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais o gymharu â rhai Lloegr ac na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio yn sgil gwahanol gynlluniau yn gweithredu yn y ddwy wlad.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon meddygon teulu. Rydyn ni'n deall yr effaith y mae costau cynyddol indemniad proffesiynol yn ei chael ar y gweithlu a'r potensial ar gyfer pwysau yn y dyfodol pe bai gwahanol arferion indemniad ar waith yng Nghymru a Lloegr.
"Rydyn ni wedi cyfrannu tuag at gostau cynyddol indemniad drwy'r ymgodiad blynyddol i dâl a chostau meddygon teulu ers 2017, ond heddiw rydyn ni'n cymryd cam pellach i ymateb i bryderon y meddygon drwy gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy.
"Mae hyn yn arwydd pellach o'n hymrwymiad i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, ac i ddenu mwy o feddygon teulu i weithio yma gan ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gynaliadwy yn y tymor hir.
"Gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn tawelu meddyliau'r meddygon sy'n gweithio mor galed yma."
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol BMA Cymru Wales, a'r Is-gadeirydd, Dr Peter Horvath-Howard:
"Mae'r Pwyllgor o'r farn bod symud tuag at system indemniad gyda chefnogaeth y wladwriaeth i holl ymarferwyr cyffredinol Cymru yn gam pwysig iawn ymlaen i wella cynaliadwyedd ymarfer meddygol yng Nghymru drwy roi sylw i'r costau sylweddol hyn ar feddygon.
"Mae'n galonogol clywed y bydd y cynllun yn cynnwys y tîm clinigol ehangach, ac yn sicrhau y bydd unrhyw atebolrwydd sydd gan feddygon teulu dros y timau amlddisgyblaethol ehangach sy'n gweithio ar draws clystyrau yn cael ei gynnwys.
"Edrychwn ymlaen at gael gweithio ar y manylion gyda Llywodraeth Cymru, sy'n amlwg wedi gweld bod angen gweithredu ar y mater cymhleth hwn."