Nod Ddeddf 2018 yw diogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed llawer o alcohol rhad a chryf.
Alcohol yw un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru. Mae'n arwain at niwed i iechyd a niwed cymdeithasol, yn enwedig i'r lleiafrif o bobl sy’n goryfed.
Yn 2017, bu 540 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol, ac yn 2017-18, bu bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a oedd hefyd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae modd osgoi pob marwolaeth a phob derbyniad i'r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Mae Gweinidogion o'r farn ers tro bod ymyrryd â'r pris yn rhan allweddol o’n strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, yn enwedig gan fod alcohol wedi mynd yn llawer mwy fforddiadwy dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Cefnogodd y Cynulliad Cenedlaethol yr angen i gyflwyno isafbris uned, gan basio Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y llynedd.
Nod Ddeddf 2018 yw diogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed llawer o alcohol rhad a chryf. Mae'n darparu fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris priodol am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint, a'r isafbris uned. Mae hyn yn caniatáu inni i dargedu’r alcohol rhad a chryf sy’n cael ei werthu a'i gyflenwi.
Mae Gweinidogion wedi cynnal ymgynghoriad ar yr isafbris a ffefrir ar gyfer uned o alcohol, sef 50c. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw wedi cael eu cyhoeddi heddiw. Ar ôl ystyried yr ymatebion hyn, mae Gweinidogion yn parhau o'r farn bod pennu isafbris uned o 50c yn ymateb cymesur i’r angen i fynd i'r afael â'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gosod rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn pennu lefel yr isafbris hwn, i'w hystyried gan y Cynulliad.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud erioed bod pennu isafbris uned ar gyfer alcohol yn rhan o strategaeth a dull gweithredu ehangach i leihau camddefnyddio sylweddau.
“Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, dw i'n falch o allu cadarnhau y byddwn ni nawr yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo isafbris uned o 50c ar gyfer alcohol. Rydyn ni o'r farn y bydd isafbris uned o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision i iechyd cyhoeddus a'r manteision cymdeithasol a ragwelir, a'r ymyrraeth yn y farchnad.
“Byddwn ni'n parhau i ddefnyddio pob dull posibl i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi drwy yfed gormod o alcohol, wrth inni ddatblygu a bwrw ymlaen â chynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio sylweddau.”
Er bod llawer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r egwyddor o bennu isafbris, codwyd pryderon ynghylch y canlyniadau anfwriadol posibl a allai ddeillio o gyflwyno isafbris ar gyfer uned o alcohol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Roedd y broses ymgynghori wedi codi nifer o faterion, megis yr effeithiau posibl ar grwpiau agored i niwed, cyllidebau aelwydydd, y risg o droi at sylweddau eraill, a'r cynnydd posibl yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth gan wasanaethau. Byddwn ni'n parhau i ystyried yr effeithiau posibl hyn.
“Rydyn ni wedi comisiynu ymchwil i edrych yn benodol ar y risg o droi at sylweddau eraill, a byddwn ni'n cael adroddiad ar hyn cyn inni fynd ati i weithredu'r isafbris. Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddon ni y bydden ni'n rhoi £2.4m ychwanegol i Fyrddau Cynllunio Ardal ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rheng flaen, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o’r fath ar gael yn ehangach. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Byrddau Cynllunio Ardal drwy gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny hyd nes y down ni at roi'r ddeddfwriaeth ar waith.”