Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu pobl yng Nghymru i gynnal pwysau iach ac mae am glywed barn pobl Cymru ar y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu pobl yng Nghymru i gynnal pwysau iach ac mae am glywed barn pobl Cymru ar y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnig.
Cafodd Pwysau Iach: Cymru Iach ei lansio gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd. Mae'n ymgynghoriad ar-lein gyda chyfres o ddigwyddiadau i ennyn diddordeb yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru.
Bydd amryw o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn y Canolbarth ym mis Chwefror gan gynnwys lansiad cyhoeddus ar 11 Chwefror yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod. Bydd y lansiad yn dechrau am 6:30pm, a bydd cyfle gan bobl i glywed mwy am y cynigion yn ogystal â rhannu eu syniadau eu hunain am y ffordd orau o fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru.
Bydd gwybodaeth a chynrychiolwyr ar gael yn y lleoliadau canlynol i gasglu barn pobl:
- Dydd Mercher 13 Chwefror, rhwng 10:30am-11:30am – Canolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd, Stryd y Parc, Y Drenewydd
- Dydd Gwener 15 Chwefror, rhwng 9am-12pm – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Dydd Gwener 15 Chwefror, rhwng 2pm-5pm – canolfan tref Aberystwyth, ochr draw i Fanc Barclays a siop Lloyds Pharmacy ar yr A487
- Dydd Sadwrn 16 Chwefror, rhwng 9am-3pm – Canolfan Siopa Bear Lanes, Y Drenewydd, ger y mynediad ar Broad Street
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
“Mae hwn yn fater na allwn ei anwybyddu. Hon yw'r her iechyd y cyhoedd fwyaf i'n cenhedlaeth ni ac rwy'n annog pobl i gymryd mantais lawn o'r cyfle i gyflwyno sylwadau i'r ymgynghoriad hwn.
“Mae mynd i'r afael â gwraidd yr achosion pam mae pobl yn ordew yn fater cymhleth. Bydd yn galw am ymyrraeth ar bob lefel o'r maes iechyd. Allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau - does dim ateb hawdd i'r broblem hon. Mae'r cynigion a amlinellwyd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael o'r hyn a allai weithio i newid y sefyllfa yn llwyr."
Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Pwysau Iach: Cymru Iach a byddwn i’n annog pob un sydd â diddordeb mewn iechyd a llesiant i gymryd rhan. Mae bod dros eich pwysau neu’n ordew yn cynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol, fel pwysedd gwaed uchel, clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.
“Mae mwy na chwarter plant pedair i bum mlwydd oed a bron i ddau draean o oedolion dros eu pwysau neu’n ordew felly mae’n amlwg bod hyn yn flaenoriaeth mawr o ran iechyd y boblogaeth. Os ydyn ni am lwyddo i fynd i’r afael â gordewdra a’r effeithiau niweidiol ar iechyd a llesiant, mae’n hanfodol inni fabwysiadu dull cadarn, strategol sy’n cynnwys partneriaid a’r cyhoedd – yn genedlaethol ac yn lleol.”
Mae ffocws cryf ar atal gordewdra yn y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad. Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r hyn sy'n gallu helpu pobl i gynnal pwysau iach yn cefnogi'r cynigon hynny. Bydd yr adborth a ddaw oddi wrth y cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i helpu i lunio'r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach derfynol, y bwriedir ei chyhoeddi ym mis Hydref 2019:
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 12 Ebrill 2019. I ddarllen yr ymgynghoriad a'r cynigion yn llawn, yn ogystal ag ymateb, ewch i https://beta.llyw.cymru/pwysau-iach-cymru-iach