Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7m mewn theatr llawdriniaethau newydd a dau sganiwr newydd mewn ysbytai yn y De.
Bydd £1m yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu theatr llawdriniaethau newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, fel rhan o ganolfan triniaethau dewisol yn yr ysbyty hwnnw.
Mae'r ganolfan yn rhan o strategaeth gwasanaethau clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n ymwneud â gwahanu gofal wedi ei gynllunio oddi wrth y theatrau a ddefnyddir ar gyfer llawdriniaethau brys a chymhleth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Bydd buddsoddiad arall o £2.542m yn cael ei ddefnyddio i brynu sganiwr MRI newydd yn lle'r hen un yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, a darperir buddsoddiad o £2.185m hefyd i brynu sganiwr CT newydd yn lle'r hen sganiwr yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Bydd y ddau fuddsoddiad hyn yn helpu'r GIG i ddarparu gwasanaeth amserol ar gyfer sganio diagnostig a delweddu, a bydd hyn yn lleihau'r amser y bydd angen i gleifion ei dreulio yn yr ysbyty.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae GIG Cymru yn trin cannoedd o filoedd o bobl bob wythnos, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n buddsoddi yn yr offer a'r seilwaith y mae eu hangen ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio'r offer diweddaraf yn y cyfleusterau mwyaf modern i ofalu am eu cleifion.
“Bydd y buddsoddiadau a gyhoeddir gen i heddiw yn caniatáu i'r GIG ddatblygu gwasanaethau a ddaw â budd i gleifion ledled y De, drwy sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu darparu gofal amserol gan leihau amseroedd aros.”
Dywedodd Dr. Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
“Bydd y buddsoddiad pwysig hwn yn caniatáu inni barhau i weithredu ein Strategaeth Gwasanaethau Clinigol drwy ddatblygu gwasanaethau a seilwaith cynaliadwy ar gyfer darparu gofal amserol o ansawdd da i gleifion sy'n byw yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, ac ardaloedd ehangach yn y De.”
Dywedodd Dr. Balan Palaniappan, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Radioleg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r cyhoeddiad hwn. Ochr yn ochr â'r Ganolfan Diagnosteg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, bydd cael sganiwr MRI newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn lle'r sganiwr presennol sy'n dechrau mynd yn hen, yn golygu y bydd cleifion Cwm Taf yn cael yr un mynediad â chleifion eraill at wasanaeth diagnosteg o ansawdd uchel. Bydd hyn o fantais enfawr, a bydd yn darparu gwasanaeth delweddu MRI i gefnogi'r gwaith diagnosteg rhagorol ym maes trin canser sy’n cael ei wneud gan y bwrdd iechyd ar hyn o bryd.”
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw. Bydd yn sicrhau y gallwn gael sganiwr CT newydd hollol fodern yn Ysbyty Brenhinol Gwent i'n helpu i barhau i ddarparu gofal o'r safon uchaf bosibl i gleifion, a hynny yn y modd mwyaf amserol posibl.”