Heddiw bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn sôn am y rhaglen waith uchelgeisiol i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu ardoll ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y Gweinidog yn cydio yn arweinyddiaeth y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, a sefydlwyd y llynedd i edrych ar yr opsiynau ariannu a’r modelau gofal cymdeithasol sydd ar gael i fodloni’r cynnydd yn y galw.
Bydd y grŵp yn defnyddio adroddiad yr Athro Gerald Holtham ar ardoll gofal cymdeithasol yn sail i’w waith. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru a bydd yn destun dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Dywedodd Mr Gething:
“Mae’r gost o ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio yn fater cymhleth a heriol sy’n wynebu’r rhan fwyaf o’r byd datblygedig.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd enfawr o ran gwella gofal iechyd a thaclo salwch ac mae hynny’n ein helpu ni i gyd i fyw’n hirach, heb glefydau. Mae angen i’n model gofal cymdeithasol ddatblygu ar yr un cyflymder hefyd, o ystyried mor bwysig yw hi bod unigolion yn cael cadw’u hannibyniaeth, a’r gydberthynas rhwng gofal cymdeithasol a’r system gofal iechyd ehangach.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ofal cymdeithasol ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol i helpu â’r costau yn y dyfodol.
“Un o’r syniadau yw sefydlu ardoll i godi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol. Bydd angen iddo gael ei ystyried yn ofalus ar y cyd â’r holl opsiynau eraill, gan gynnwys modelau yswiriant.”
Roedd syniad yr Athro Holtham am ardoll gofal cymdeithasol yn un o’r pedwar syniad am drethi newydd a gododd o’r drafodaeth genedlaethol am drethi newydd yn ystod haf 2017. Cyhoeddwyd ei adroddiad a’i ddadansoddiad economaidd ym mis Mehefin 2018.
Heddiw, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod yr adroddiad a’r syniad ynghylch codi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ariannu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd – mae ffigurau swyddogol y Trysorlys yn dangos bod y gwariant y pen ar y swyddogaethau hyn wedi codi 3.8% yng Nghymru yn 2017-18 – y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o bedair gwlad y DU.
Mae gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 11% yn uwch nag yn Lloegr – mae’n gyfystyr â £290 yn ychwanegol i bob person.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Mae disgwyl i’r cyfran o bobl dros 75 oed yng Nghymru gynyddu fwy na 40% erbyn 2030, a gan fwy na 70% erbyn 2040; ac i nifer y rhai dros 85 oed fwy na dyblu erbyn 2040.
“Mae hyn yn newyddion da, ond mae’n golygu hefyd bod angen inni ddod o hyd i ffordd fwy hirdymor o ariannu gofal cymdeithasol er mwyn helpu pobl i fyw’n annibynnol.
“Y rhagolygon hyn a arweiniodd at gynnig yr Athro Holtham i godi ardoll ar incwm i helpu i dalu am ofal.
“Cynigiodd y dylai’r arian a fyddai’n cael ei godi drwy’r ardoll gael ei ddefnyddio i helpu i gyllido costau uniongyrchol gofalu am bobl hŷn, ac y dylai’r gweddill gael ei roi mewn cronfa wedi’i chlustnodi a fyddai’n cael ei buddsoddi i helpu i dalu am y cynnydd a ddisgwylir yn y galw am ofal gan genedlaethau’r dyfodol.”