Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.
Mae’r gyfraith newydd, sy’n dod i rym heddiw yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu drefnu a/neu roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.
Nod y gyfraith newydd yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed posibl i’w hiechyd oherwydd twll mewn rhan bersonol o’u corff.
Daw’r newid o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy’n gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff personau o dan 18 oed yng Nghymru. Bydd hefyd yn drosedd “gwneud trefniadau” i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed yng Nghymru.
Hefyd, gellid ystyried bod rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn fater amddiffyn plant. Drwy gael twll mewn rhan bersonol o’u corff, gall pobl ifanc o dan 18 oed fod yn agored i niwed.
Yn ystod ymweliad â Frontier Tattoo Parlour yng Nghaerdydd i drafod y gyfraith newydd, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
Dywedodd Prif Swyddog Deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman:“Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r gyfraith newydd hon yn sicrhau ein bod ni’n gallu diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc.
“Mae’n bryder bod traean o bobl ifanc sydd wedi cael twll mewn rhan bersonol o’u corff wedi sôn am gymhlethdodau yn dilyn triniaeth. Mae’r materion amddiffyn plant a allai hefyd godi o’r sefyllfa hon yn amlinellu ymhellach byth bwysigrwydd gweithredu cyfraith o’r fath.
“Rwy’n gobeithio y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn helpu i leihau’r materion hyn, a bod ymarferwyr yn deall pwysigrwydd cael prawf o oedran ymlaen llaw.”
Daeth astudiaeth yn Lloegr i’r casgliad bod cymhlethdodau wedi’u cofnodi yn dilyn traean o’r holl achosion o dyllu’r corff ymhlith unigolion 16-24 oed. Daeth yr un astudiaeth i’r casgliad bod mwy o gymhlethdodau wedi digwydd mewn cysylltiad â mathau penodol o dyllu’r corff, gan gynnwys tyllau mewn rhannau personol o’r corff. Y problemau mwyaf tebygol o gael eu cofnodi oedd problemau yn dilyn twll yn y tafod (50%), twll yn yr organau cenhedlu (45%) a thwll yn y tethi (38%). Gan fod pobl ifanc yn parhau i dyfu yn eu harddegau, gallai twll mewn rhan bersonol o’u corff arwain at ragor o gymhlethdodau wrth i’w cyrff ddatblygu. Hefyd, gall fod yn llai tebygol bod gan bobl ifanc y profiad neu’r wybodaeth o ran sut i lanhau neu ofalu am dwll mewn rhan bersonol o’u corff, sy’n golygu mwy o berygl o haint.Mae ymarferwyr sy’n rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yng Nghymru yn cael eu hannog i sicrhau bod ganddynt system gadarn i’w helpu i gael prawf o oedran, ac i gael cydsyniad wedi’i lofnodi ar gyfer pob triniaeth er mwyn osgoi cael eu herlyn a’u dirwyo.“Fe all twll yn y tafod arwain at ddifrod parhaol i’r dannedd a’r deintgig, ac fe all achosi chwyddo difrifol yn y geg sy’n gallu effeithio ar anadlu. Mae llawer o ddeintyddion yng Nghymru wedi gweld cleifion sydd wedi cael niwed parhaol yn dilyn tyllu ac mae timau deintyddol yng Nghymru wir yn croesawu’r gyfraith newydd hon.”