Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi croesawu cynnydd ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Mr Gething ei fod wedi rhagori ar ei darged ar gyfer ehangu rhaglen diwygio'r contract a hefyd fod 73 o geisiadau wedi dod i law am gymorth oddi wrth gronfa arloesi gwerth £1.5m i ddatblygu gwasanaethau. 

Dywedodd: 

“Rydym yn ehangu’r gwaith o gyflwyno diwygiadau i’r contractau deintyddol i ddarparu gwasanaeth gwell i gleifion y GIG ac i wella iechyd y geg. Mae'r system newydd yn anelu at wneud defnydd gwell o sgiliau mewn timau practis deintyddol, dealltwriaeth well o anghenion y cleifion unigol a mwy o bwyslais ar atal.”

I ddechrau, cymerodd 22 o bractisau deintyddol ledled Cymru ran yng ngham cyntaf y diwygiadau,  a oedd yn cynnwys cynlluniau personol newydd i helpu cleifion i wneud dewisiadau gwell i wella a chynnal iechyd y geg eu hunain. 

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Mae'r gwaith gwerthuso ar y cam cyntaf wedi bod yn gadarnhaol ac rydyn ni bellach yn cynyddu nifer y practisau sy'n cymryd rhan. Ym mis Gorffennaf gofynnais i'r byrddau iechyd a'r proffesiwn deintyddol gefnogi'r gwaith ehangu ar y rhaglen ddiwygio ac i isafswm o bractisau deintyddol gymryd rhan erbyn mis Hydref.

Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gwireddu a rhagori ar yr uchelgais hwn, gyda chyfanswm o 53 o bractisau – un o bob wyth o'r holl bractisau yng Nghymru – bellach yn cymryd rhan. Rwyf bellach yn disgwyl i o leiaf 20% o bractisau deintyddol fod yn rhan o'r cynllun ym mhob ardal o Ebrill 2019.

Rydyn ni hefyd wedi cael 73 o geisiadau am gyllid o'r gronfa arloesi gwerth £1.5m i brofi ffyrdd newydd o weithio mewn practisau deintyddol, i wella sgiliau ac i recriwtio rhagor o weithwyr deintyddol proffesiynol.

Mae'r profiad o glefyd deintyddol ymhlith pobl yn anghyfartal o hyd a hefyd mae mynediad at ofal deintyddol ledled Cymru yn anghyfartal o hyd. Mae'r diwygiadau hyn yn anelu at fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn ac at rymuso pobl i warchod iechyd y geg eu hunain.”