Mae data newydd yn dangos, am y tro cyntaf, fod cynnydd mawr wedi bod yn y cyfraddau cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd yng Nghymru (88.2%) o'i gymharu â Lloegr (73.3%).
Mae'r gyfradd cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaeth gylchredol yng Nghymru hefyd wedi gwella ac mae'n 68% erbyn hyn, o'i gymharu â 59.8% yn Lloegr.
Erbyn hyn, yng Nghymru mae'r gyfradd cydsynio uchaf yn y DU o ystyried achosion yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd ac achosion yn dilyn marwolaeth gylchredol gyda’i gilydd, sef 80.5%. Mae cyfradd Lloegr yn 66.2%, yr Alban yn 63.6% a Gogledd Iwerddon yn 66.7%.
Ar 1 Rhagfyr 2015, cyflwynodd Cymru system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau, a hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae hyn yn golygu, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – mae hyn yn cael ei alw yn gydsyniad tybiedig.
Mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG wedi bod yn cynnal dadansoddiad o effaith Deddfwriaeth Gymreig ar gyfraddau cydsynio/awdurdodi ers 1 Ionawr 2016. Maen nhw wedi casglu data cronnol ar gyfraddau cydsynio yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Mae pob rhodd o organau yn werthfawr, ac fe allai achub bywyd. Mae'r ffigurau newydd hyn wir yn rhoi achos inni fod yn obeithiol am y dyfodol ac mae'n dangos bod ein deddfwriaeth sy'n torri tir newydd yn cael yr effaith roedden ni wedi gobeithio y byddai'n ei chael. Mae'n helpu i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i Gymru.
“Ni fyddai'r hyn a gyflawnwyd gennym wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y bobl yng Nghymru a'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n chwarae eu rhan i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo. Hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu cefnogaeth ac rwy'n awyddus i weld a fydd modd inni gynnal y cynnydd hwn yn yr ystadegau.”
Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:
“Mae'r rhain yn ffigurau calonogol iawn ond rhaid inni barhau â'r gwaith da er mwyn gweld cynnydd pellach yn nifer y rhoddwyr organau yma yng Nghymru.
“Rhaid inni gadw mewn cof fod y niferoedd yng Nghymru yn fach a rhaid inni aros i weld a fydd y cynnydd hwn yn cael ei gynnal. Ni allwn ni ddweud yn bendant mai’r ddeddfwriaeth ynghylch rhoi organau yw'r unig reswm am hyn. Ond rhaid ei bod hi wedi chwarae rhan, ynghyd â gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac ymarfer clinigol da, rwy'n credu ei bod hi'n rhesymol dweud hynny.
“Rydyn ni'n gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn allan at bobl Cymru ar y mater hwn. Mae'n bwysig inni gadw'r momentwm ac rwy'n annog pawb i gael sgwrs gyda'u hanwyliaid am eu penderfyniad rhoi organau.
“Os ydych chi'n gwybod eich bod chi eisiau rhoi eich organau, dywedwch wrth eich anwyliaid. Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaethau am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw. Gallai cyfnod sy'n ddigon anodd i deuluoedd fod yn anoddach eto os na fyddwch chi wedi trafod rhoi organau."