Heddiw, roedd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Bobl Hŷn, yn Abertawe i gymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl hŷn yn yr ardal.
Cafodd ymgyrch gorsafoedd radio The Wave a Swansea Sound, sef #DontDanceAlone, ei lansio yn 2017 i godi ymwybyddiaeth o’r genhedlaeth hŷn, a thynnu sylw at yr effaith ddinistriol mae bod yn unig yn ei chael ac annog pobl o bob cenhedlaeth i feithrin perthynas drwy ddawnsio.
Cafodd yr ymgyrch ar gyfer 2018 ei lansio ar 7 Hydref. Arweiniodd hyn at yr Wythnos #DontDanceAlone swyddogol gyntaf o 12 Tachwedd i 18 Tachwedd.
Yn ystod yr wythnos, mae grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau yn cael eu cymell i gynnal neu greu eu digwyddiadau eu hunain, lle y gall aelodau hŷn y gymuned ddod ynghyd/cymryd rhan gydag aelodau iau’r gymuned.
Aeth y Gweinidog i Ysgol Gynradd Gellifedw yn Abertawe am ddiwrnod o weithgareddau ar thema yr Ail Ryfel Byd. Roedd y rhain yn cynnwys te parti â dawnsio ar gyfer disgyblion a theidiau a neiniau/trigolion hŷn y gymuned.
Ymunodd y Gweinidog wedi hynny â digwyddiad a oedd yn cael ei arwain gan y gymuned yn Eglwys St Nicholas on the Hill a St Jude yn Abertawe, lle daeth aelodau hŷn ac iau y gymuned at ei gilydd i ddawnsio.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ei chynlluniau i fynd i’r afael ag achosion lle y mae pobl yn teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Yn 2016-17, adroddodd tua 17% o bobl Cymru – 440,000 o bobl – eu bod yn teimlo’n unig.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos (hyd at 15 Ionawr 2019) ac mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:
“Mae mwy a mwy o ymwybyddiaeth o’r broblem lle mae unigolion yn cael teimladau annymunol o fod yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ar draws Cymru a’r DU yn gyffredinol. Rydyn ni’n gwybod o ymchwil y mae teimlo’n unig yn gallu cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd – a allai fod cyfystyr â smygu 15 o sigaréts y dydd. Dyna pam rydyn ni, Llywodraeth Cymru, wedi dweud bod mynd i’r afael â theimladau annymunol o fod yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn flaenoriaeth genedlaethol inni.
“Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud yr hyn y gallwn ni i ddod â chymunedau ynghyd. Rydw i wrth fy modd o fod wedi ymweld ag Abertawe heddiw i ddangos fy nghefnogaeth i’r ymgyrch arbennig #DontDanceAlone sy’n cael ei chynnal gan The Wave a Swansea Sound. Mae’n boblogaidd tu hwnt, ac yn dod â phobl ifanc a hŷn at ei gilydd i fwynhau te parti a dawnsio.”
“Dyma’r union fath o ddigwyddiad rydw i’n gobeithio y gwelwn ni fwy ohono ar draws Cymru. Yng Nghymru, mae gennym draddodiad balch o gymunedau agos yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Gadewch inni adfywio’r ysbryd hwnnw yn ein cymunedau – ym mhob pentref, tref a dinas ledled y wlad. Gyda’n gilydd, rhaid inni fynd ati i geisio sicrhau na fydd unrhyw un yn teimlo’n unig ac yn ynysig.”