Mae dogfen wedi’i chyhoeddi heddiw sy’n bwrw golwg ar y gwaith da sy’n cael ei wneud drwy Gymru i roi gofal ardderchog ar bob lefel a chael effaith gadarnhaol ar gleifion.
Mae pedwerydd Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru yn sôn am rai o’r mentrau sy’n helpu i wneud gwelliannau cyffredinol o ran ansawdd y gofal i gleifion mewn meysydd megis dementia, sepsis, diabetes a chanser. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i enghreifftiau o ddarparu gofal yn effeithiol mewn ffyrdd newydd blaengar ac yn cyfeirio hefyd at feysydd lle gall y GIG wella yn y dyfodol.
Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall:
“Mae’n hollol amlwg bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael ei werthfawrogi a bod rhaid ei ddiogelu.
“Mae’n briodol ein bod, wrth ddathlu 70 mlwyddiant y GIG, yn gallu dangos ymrwymiad ein staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i ddarparu gofal da i bobl Cymru.
“Ddydd ar ôl dydd, mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau mai’r cleifion sy’n dod gyntaf ym mhopeth a wnânt. Rwy’n ddiolchgar iddynt, ac yn gwybod eu bod yn wynebu pwysau difrifol yn aml. Hyd yn oed yn ystod ein gaeaf prysuraf, cafodd mwyafrif helaeth y cleifion ofal amserol a phroffesiynol. Ac er ein bod yn cydnabod bod pwysau gwirioneddol ar adegau, mae’r amseroedd aros wedi gwella mewn rhai meysydd.
“Er hynny, mae’n bwysig ein bod, wrth annog arloesedd ac arferion da, yn cydnabod hefyd bod heriau yn wynebu’r gwasanaeth – a lle bo’r heriau hynny’n bodoli, rwy’n sicr fy marn bod rhaid gwneud gwelliannau.
“Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r GIG yn newid yn gyflym a rhaid iddo aros ar flaen y gad o ran arloesi. Rhaid iddo fod yn fwy integredig, ac mae buddsoddi mewn triniaethau newydd a gwneud gwaith ymchwil ym maes geneteg a thechnolegau digidol yn hollbwysig.
“Dyna pam y mae Cymru Iachach, ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mor bwysig. Erbyn y bydd y GIG yn 80 oed, rwy’n disgwyl y bydd cydweithio a gwasanaethau arloesol a di-dor yn bethau arferol yng Nghymru yn hytrach nag yn eithriadau. Rwy’n hyderus y gallwn greu gwasanaeth sy’n cydnabod nad yw’r un ateb yn addas i bopeth – gwasanaeth sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion pobl ac sy’n rhoi llais iddyn nhw yn y gwaith cynllunio.
“Mae llawer o gyfleoedd ar gael i lunio a sicrhau dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld newidiadau gwirioneddol yn digwydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan adeiladu ar yr amrywiaeth eang o enghreifftiau ac arferion da yr ydyn ni’n rhoi sylw iddynt yn y datganiad ansawdd blynyddol hwn.”