Mae angen cymryd camau i fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig yn gymdeithasol.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn lansio sgwrs genedlaethol i drafod yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigwydd cymdeithasol yng Nghymru.
Darganfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 bod 17% o boblogaeth Cymru, sef tua 440,000 o bobl, yn dweud eu bod yn teimlo’n unig a bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn unig na phobl hŷn: roedd 20% o bobl ifanc 16-24 oed yn unig, o’i gymharu â 10% o bobl 75 oed a throsodd.
Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol arwain at nifer o broblemau corfforol a seicolegol, gan gynnwys marw cyn pryd, problemau cysgu, pwysedd gwaed uchel, ansawdd bywyd gwael, mwy o risg o drawiad ar y galon a strôc, iselder a hunanladdiad. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod effaith unigrwydd o ran marwolaeth yn cyfateb i smygu 15 o sigaréts y dydd.
Gall canlyniadau economaidd bod yn unig ac yn ynysig fod yn sylweddol hefyd. Darganfu Prosiect Eden y gallai costau ynysigrwydd cymdeithasol a diffyg cyswllt rhwng cymunedau yng Nghymru fod cyn uched â £2.6bn y flwyddyn.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thrawslywodraethol i ymdrin â’r materion hyn. Bydd y strategaeth hon yn ymwneud â phobl o bob oed a phob cefndir.
Y dull gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gynnig i fynd i’r afael â’r materion yw ymyrryd yn gynnar i atal unigrwydd cronig, o gofio’r effaith ehangach y mae’n ei chael ar iechyd a llesiant, a’r pwysau y mae hynny’n ei roi ar y GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, Fodd bynnag, mae angen sicrhau hefyd bod cymorth ar gael i’r rhai sy’n dioddef unigrwydd cronig yn awr neu sy’n wynebu hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai meysydd lle gallai camau gweithredu wneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol:

- Y blynyddoedd cynnar - Bydd gwella profiadau unigolyn pan fydd yn blentyn yn arwyddocaol o ran ei ddyfodol, er enghraifft wrth feithrin perthynas gref a chadarnhaol gydag eraill wrth iddo dyfu’n hŷn;
- Tai – Sicrhau bod pobl yn byw mewn cymdogaethau saff a diogel, mewn cartrefi priodol;
- Gofal Cymdeithasol – Mae darparu gofal tosturiol ac urddasol yn allweddol er mwyn sicrhau bod pobl yn iach ac yn gallu parhau’n annibynnol yn hirach;
- Iechyd Meddwl: Mae sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau cymorth priodol yn hanfodol i gynnal eu hiechyd, eu llesiant a’u hannibyniaeth, a dylent allu troi at wasanaethau cymorth priodol pan fo angen hynny.
- Sgiliau a Chyflogadwyedd – Sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth chweil a chynaliadwy.
“Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn broblemau sy’n cynyddu, nid yn unig yma yng Nghymru ond drwy’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i hynny. Erbyn hyn mae 1 o bob 5 o bobl yn teimlo’n unig a/neu’n ynysig yn gymdeithasol. Mae mwy ohonom yn deall erbyn hyn y gall hyn effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, ac am amryw o wahanol resymau. Maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Mae perygl y bydd hyn yn dod yn argyfwng mawr o ran iechyd y cyhoedd os na chymerwn gamau nawr a gweithio gyda’n gilydd i daclo’r broblem. “Rydyn ni fel llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau’r iechyd, y llesiant a’r ansawdd bywyd gorau i holl bobl Gymru. Rhaid inni roi blaenoriaeth i atal pobl rhag mynd yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol, oherwydd bydd hynny nid yn unig yn gwella bywydau pobl - bydd hefyd yn helpu i leihau’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol. “Ond does dim modd i Lywodraeth Cymru nac un asiantaeth ar ei phen ei hun fynd i’r afael â’r materion hyn. Fel llywodraeth, mae angen inni feithrin yr amgylchedd cywir a chreu’r amodau addas i eraill allu cynllunio a darparu atebion sy’n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau. “Hoffwn glywed gan bobl o bob rhan o Gymru yn ystod y broses ymgynghori hon. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod ein cymunedau, a’r gwead cymdeithasol sy’n eu clymu ynghyd, mor wydn ag y gallant fod."